
Amdanom ni
Rydym yn gorff statudol annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Ar 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau GIG Cymru ers bron i 50 mlynedd.
Rydym yn datblygu eu gwaith ac yn cyflwyno pwerau ychwanegol [link to Improving health and social care services] i gynyddu eich dylanwad ar lunio eich gwasanaethau GIG, a bellach ar lunio eich gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd.
Rydym bob amser yn croesawu adborth am ein gwasanaethau ein hunain hefyd, fel y gallwn bob amser weithio i wneud yn well. Cysylltwch â ni i rannu unrhyw adborth sydd gennych. Rhown wybod i chi sut y byddwn yn addasu gwasanaethau o ganlyniad iddo.
Eich tîm Llais lleol
