Ein Bwrdd
Mae ein Bwrdd yn gosod ein strategaeth, ac yn darparu craffu, goruchwylio a llywodraethu ar draws ein holl waith.
Mae ein Bwrdd yn dwyn y tîm gweithredol i gyfrif am gyflawni ein nodau, amcanion a blaenoriaethau i fodloni’r gofynion a nodir yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 a’n dyletswyddau sector cyhoeddus ehangach.
Fel Bwrdd rydym yn angerddol bod:
Caiff ein gwaith ei lywio gan y bobl sy’n byw yng Nghymru. Rydym yn gweithio’n uniongyrchol a gydag eraill i nodi BLAENORIAETHAU’R BOBL.
Rydym am fod yn sefydliad lle mae cynwysoldeb, uniondeb, tosturi a pharch at ein gilydd yn llywio popeth a wnawn. Byddwn yn gweithio gyda'n pobl i ddatblygu'r dull hwn.
Rydym yn canolbwyntio ar feithrin perthynas ag ystod eang o bobl, grwpiau cynrychioliadol cymunedol a sefydliadau fel y gallwn gydweithio i ddefnyddio ein hadnoddau ar y cyd i wneud gwahaniaeth.
Mae’n hanfodol bwysig i ni ein bod yn cynnal ein hannibyniaeth er mwyn cyfleu barn pobl a chymunedau Cymru yn fwyaf effeithiol.
Aelodau'r Bwrdd
Ein Cyfarfodydd
Rydym am i bobl gymryd rhan cymaint â phosibl yn Llais ac felly rydym yn cynnal ein cyfarfodydd Bwrdd chwarterol yn gyhoeddus mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, y gall unrhyw un ymuno â nhw, yn bersonol neu ar-lein gan ddefnyddio Zoom. Wrth ddewis ble rydym yn cynnal ein cyfarfodydd byddwn yn ystyried mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus a safonau hygyrchedd i wneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu bod yn bresennol yn bersonol os ydynt yn dymuno.
Bydd lleoliad a manylion pob cyfarfod Bwrdd cyhoeddus yn cael eu rhestru isod cyn gynted ag y byddant yn hysbys, cliciwch ar y dyddiadau isod i gael rhagor o fanylion am bob dyddiad.
Rhowch wybod i ni o leuaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod os ydych chi'n bwriadu mynychu, ac os oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu penodol y gallwn ni helpu gyda nhw. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio [email protected].
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech i’r Bwrdd eu hateb, gofynnwn i chi eu cyflwyno’n ysgrifenedig i [email protected] erbyn canol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod.
Ein hagendâu a phapurau cyfarfodydd
Bydd agenda a phapurau pob un o gyfarfodydd chwarterol y Bwrdd yn cael eu cynnwys ar y wefan isod. Bydd y rhain ar gael dim hwyrach na 3 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
Os hoffech bapurau’r Bwrdd mewn unrhyw iaith gymunedol arall cysylltwch â ni ar [email protected]
Rydym yn frwd dros wneud ein gweithgareddau yn hygyrch i gynifer o bobl ag y gallwn, gan gynnwys gwaith ein Bwrdd. Gan ein bod yn sefydliad newydd, mae gennym gyfle i wneud pethau’n wahanol felly rydym ar hyn o bryd yn ystyried sut rydym yn cyfathrebu gweithgareddau ein Bwrdd (gan gynnwys beth sy’n digwydd yn ein cyfarfodydd). Gwyddom y bydd hygyrchedd yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl ag anghenion gwahanol. Nid oes un dull sy'n addas i bawb. Dyna pam rydym yn gofyn i bobl ddweud wrthym sut y maent am weithio gyda ni ar hyn o bryd a hoffem glywed gennych am y ffordd orau i ni gyfathrebu ein cyfarfodydd Bwrdd.
Os oes gennych syniad - Rhowch wybod i ni beth yw eich barn. Neu e-bostiwch ni [email protected]
Mae’r safbwyntiau a’r profiadau y mae pobl wedi’u rhannu â ni yn cael eu trafod a gwneir penderfyniadau am wahanol agweddau ar ein gwaith. Mae cyfrinachedd unigolion, yn naturiol, yn cael ei gynnal bob amser.
Dyddiadau Cyfarfod Cyhoeddus Bwrdd
22 Ionawr 2025 - 10:00 - 14:00 - Gwent
26 Mawrth 2025 - 10:00 - 14:00 - Cwm Taf Morgannwg
2025/2026
21 Mai 2025 - 10:00 - 14:00 - Lleoliad i'w gadarnhau, Venue i'w gadarnhau
30 Gorffennaf 2025 - 10:00 - 14:00 - Lleoliad i'w gadarnhau, Venue i'w gadarnhau
24 Medi 2025 - 10:00 - 14:00 - Lleoliad i'w gadarnhau, Venue i'w gadarnhau
26 Tachwedd 2025 - 10:00 - 14:00 - Lleoliad i'w gadarnhau, Lleoliad i'w gadarnhau
28 Ionawr 2026 - 10:00 - 14:00 - Lleoliad i'w gadarnhau, Lleoliad i'w gadarnhau
25 Mawrth 2026 - 10:00 - 14:00 - Lleoliad i'w gadarnhau, Lleoliad i'w gadarnhau
Cyfarfodydd Blaenorol
18 Rhagfyr 2024 - 09:15 - 09:45yb - Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus Ychwanegol i gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, Holiday Inn Canol Dinas, Caerdydd - Linc Zoom
25 Medi 2024 - 09:00 - 14:00 - Gwesty'r Metropole, Temple St, Llandrindod LD1 5DY
22 Ebrill - 11:00 - 12:00 - Dros Zoom
25 Ebrill 2024 - 10:00 - 15:00 - Canolfan Genedlaethol Chwareon Cymru, Caerdydd
24 Ionawr 2024 - 10:00 - 13:40 - Gwesty Traeth Aberavon
22 Tachwedd 2023 - 14:00-14:30 - Ar-lein
25 Hydref 2023 - 10:00-13:15 - Guildhall, Aberteifi
26 Gorffennaf 2023 - 10:00-14:00 - Venue Cymru, Llandudno
28 Ebrill 2023 - 10:00-14:30 - Ar-lein
Dogfennau Llywodraethu'r Bwrdd
Rydym yn dal i weithio ar hwn a fydd yn barod yn fuan