Pwy ydym ni
Mae gennym tua 100 o staff a thîm cynyddol o wirfoddolwyr sy’n gweithio ledled Cymru.
Ydych chi’n defnyddio gwasanaethau GIG neu ofal cymdeithasol yng Nghymru?
Os ydych, gallwch ein helpu i’w gwneud yn well i bawb trwy ddweud eich dweud
Ac mae eich llais yn fwy pwerus nag erioed o’r blaen
Llais yw’r corff cenedlaethol, annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Yr hyn a wnawn
Rydyn ni yma i sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn defnyddio’ch safbwyntiau a’ch profiadau i gynllunio a darparu gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae eich tîm Llais lleol yn casglu eich profiadau – da a drwg – o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn darparu cymorth i wneud cwynion.
Yna maent yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r GIG lleol i ymateb i’r pethau sydd bwysicaf i bobl yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Oherwydd ein bod ni’n gorff statudol, mae’n rhaid i sefydliadau’r GIG, awdurdodau lleol a darparwyr gofal trydydd sector wrando.
Dweud eich dweud
Rydym am glywed gan bobl yn holl gymunedau amrywiol Cymru, yn enwedig y rhai nad yw eu lleisiau bob amser yn cael eu clywed.
Mae llawer o ffyrdd i ddweud eich dweud:
- dywedwch eich stori wrthym – mae ffurflen adborth cyffredinol allwch ei lanw
- cael cefnogaeth i wneud cwyn
- cael cyngor neu wybodaeth am eich gwasanaethau lleol a sut i gael gafael arnynt
- mynychu un o’n digwyddiadau lleol rheolaidd
- gallwn ymweld â chi ble bynnag yr ydych yn derbyn gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol
Byddwch yn rhan o rywbeth pwysig
Rydyn ni yma i wneud yn siŵr bod barn a phrofiadau pobl yn helpu i wneud gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn well i bawb.
I ddarganfod mwy am Llais a sut y gallwch chi gyfrannu at wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gyda ni, cysylltwch â’ch tîm Llais lleol.