Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Sut rydym yn gweithio

Bydd yr holl benderfyniadau a wnawn a’r camau a gymerwn yn unol ag un neu fwy o’r canlynol:

Blaenoriaethau’r bobl

Bydd ein gwaith yn cael ei yrru gan bryderon pobl yng Nghymru a byddwn yn gweithio gydag unigolion a grwpiau cymunedol i’w hadnabod.

Cynrychiolydd pawb

Rydym am gefnogi a deall pryderon, anghenion a phrofiadau ein poblogaeth amrywiol i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu cynrychioli, nad oes neb yn cael ei eithrio a bod ein gwasanaethau ar gael i bawb.

Rydym yn arbennig o awyddus i gynrychioli barn y rheini na chlywir eu lleisiau fel arfer. Os ydych chi'n credu y gallwch chi ein helpu ni i gyrraedd pobl rydych chi'n gwybod sy'n cael eu tangynrychioli, cysylltwch â ni.

Darllenwch ein Polisi Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Partneriaeth gydweithredol

Rydym eisiau gweithio gyda phobl, y sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r sectorau gwirfoddol a chymunedol.

Cysylltwch â ni os nad ydym eisoes yn gweithio gyda chi a'ch bod yn meddwl y dylem fod.

Annibyniaeth

Nid ydym yn rhan o Lywodraeth Cymru, na’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny’n bwysig oherwydd mae’n golygu y gallwn weithio’n wirioneddol er budd pobl Cymru.

Dylanwad ac eiriolaeth

Byddwn yn dylanwadu ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac yn eirioli dros bobl yn effeithiol fel bod pobl yng Nghymru yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn ffordd sy’n gweithio orau iddynt.

Llywodraethu da

Bydd gennym gynlluniau a blaenoriaethau clir [dolen i Darllenwch ein cynlluniau] gyda chanlyniadau y gallwn eu mesur i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n hadnoddau a'n bod yn dryloyw ac yn atebol.

Dogfennau llywodraethu

Datblygwyd y Ddogfen Fframwaith hon gan ystyried Fframwaith Llywodraethu Enghreifftiol Llywodraeth Cymru sydd i'w ddefnyddio gyda chyrff cyhoeddus sydd wedi'u dosbarthu i'r sector llywodraeth ganolog at ddibenion y cyfrifon cenedlaethol neu sydd wedi'u dosbarthu, at ddibenion gweinyddol, naill ai fel Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, Adrannau Anweinidogol, Asiantaethau Gweithredol, Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg neu gorff cyhoeddus arall (ac eithrio cwmnïau sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru), y pennir eu cylch gwaith gan Weinidogion Cymru.

Ein Dogfen Fframwaith

Mae’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon wedi’u paratoi yn unol â Chyfarwyddyd Cyfrifon Llywodraeth Cymru a Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FreM) 2022-23. Mae’r Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gyfer 2022/23 yn cynnwys llai o ofynion adrodd a datgelu, sy’n adlewyrchu nad oedd Llais yn weithredol yn 2022/23.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23

 

Mae Gweinidogion Cymru yn anfon llythyrau cylch gwaith i bob Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, megis Llais. Mae’r llythyr cylch gwaith yn nodi nodau polisi allweddol y Llywodraeth, ei ddisgwyliadau ar Llais yn y flwyddyn i ddod a’i ddyraniad cyllideb. Mae gan Llais ei Ddogfen Fframwaith unigol ei hun, wedi'i haddasu o dempled canolog. Dyma’r cytundeb sy’n nodi’r telerau ac amodau ar gyfer darparu cyllid cyhoeddus. Mae’r Ddogfen Fframwaith yn ystyried amgylchiadau penodol y corff unigol, gan gynnwys ei brif rôl a’i amcanion o dan ei ddogfen lywodraethu a rhwymedigaethau statudol o dan ddeddfwriaeth y DU a Chymru. Mae rolau a disgwyliadau clir ar gyfer pawb sy’n ymwneud â’r berthynas noddi (gan gynnwys Gweinidogion, Cadeiryddion, Byrddau, Prif Weithredwyr, Swyddogion Cyfrifyddu, adrannau noddi ac archwilwyr) wedi’u nodi yn y ddogfen.

Ysgrifennodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd Bwrdd Llais ar 31 Mawrth 2023 yn cyhoeddi’r llythyr cylch gwaith ar gyfer 2023/2024 a’r ddogfen fframwaith.

Darllenwch y llythyr cylch gwaith llawn

Rydyn ni eisiau i bawb sy'n byw yng Nghymru wybod pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud a'r gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud.

Rydym am i'n gweithgareddau a'n gwasanaethau fod yn hawdd i'w darganfod. 

Rydyn ni eisiau i bawb allu cael mynediad i'n gwasanaethau a rhannu eu barn a'u profiadau gyda ni yn hawdd, yn y ffordd sy'n diwallu eu hanghenion unigol orau.

Darllenwch ein Datganiad Hygyrchedd llawn

Wrth gyhoeddi ein cynllun 100 diwrnod rydym am dynnu sylw at ein hymrwymiad a'n hymgyrch i gymryd camau cynnar fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ym mhob rhan o Gymru. Byddwn ni'n hyrwyddo eu hawliau a'u disgwyliadau i allu cael mynediad i'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnyn nhw yn y ffordd maen nhw ei angen

Darllenwch ein cynllun 100 diwrnod llawn

Wrth gyhoeddi ein cynllun 100 diwrnod rydym am dynnu sylw at ein hymrwymiad a'n hymgyrch i gymryd camau cynnar fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ym mhob rhan o Gymru. Byddwn ni'n hyrwyddo eu hawliau a'u disgwyliadau i allu cael mynediad i'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnyn nhw yn y ffordd maen nhw ei angen 

Darllenwch y fersiwn hawdd i'w ddarllen

Mae hwn yn ganllaw statudol ar sut y gall cyrff y GIG ac awdurdodau lleol ymdrin â sylwadau a wneir iddynt gan Llais.

Byddwn yn gwrando ar yr hyn y mae pobl wedi’i ddweud wrthym ac yna’n cynrychioli’r safbwyntiau hynny, neu’n cyflwyno sylwadau ar faterion sydd wedi dod i’w sylw mewn unrhyw ffordd arall, i’r rhai sy’n gyfrifol am ddarparu a threfnu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Dylai cynrychiolaethau helpu i sicrhau bod llais dinasyddion a defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei glywed ochr yn ochr â llais gweithwyr proffesiynol wrth wneud penderfyniadau am ddatblygu, gwella, newid neu derfynu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Darllenwch y canllaw

Canllaw yw hwn i sefydliadau’r GIG ar sut y gallant wneud newidiadau i wasanaethau iechyd yng Nghymru. Nod hwn yw rhoi arweiniad ac awgrymiadau i sefydliadau'r GIG ar faterion i'w hystyried wrth iddynt nesáu at newidiadau i wasanaethau.

Darllenwch y canllaw

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni beth oedd ein barn am ei dogfen “Cod ymarfer ar fynediad i eiddo ac ymgysylltu ag unigolion”. Mae’r ddogfen hon yn dweud sut y dylem gydweithio â’r GIG ac awdurdodau lleol pan fyddwn yn ymweld â safleoedd i siarad â phobl am eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Gofynnom am rai newidiadau i'r ddogfen. Meddyliodd Llywodraeth Cymru am yr hyn a ddywedasom, a gwneud rhai newidiadau.

Cymerwch olwg ar yr holl ddogfennau

Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu i Lywodraeth Cymru wedi dirprwyo i mi’r gyfrifioldeb o sicrhau y gwneir dynodiadau Swyddog Cyfrifyddu priodol o ran Cyrff Hyd Braich (ALB) Llywodraeth Cymru.

Y Llythyr Dynodi

Ar gael Hydref 2023

Ar gael yn fuan

Ar gael yn fuan

Fel corff cyhoeddus, mae'n ofynnol i ni gyflawni rhai dyletswyddau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ac ni ddylid ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae Safonau'r Iaith Gymraeg 2016 yn golygu bod gennym ni fel sefydliad ac fel cyflogwr gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw un yn gallu siarad â ni yn Gymraeg a'n bod yn parhau i annog defnydd o'r Gymraeg.

Gellir dod o hyd i'n Hysbysiad Cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg yma:

 

Hysbysiad Cydymffurfio