Yr hyn a wnawn
Rydym yn credu mewn Cymru iachach lle mae pobl yn cael y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnynt mewn ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw.
Rydym yma i ddeall eich barn a'ch profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol, ac i sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn defnyddio'ch adborth i lunio'ch gwasanaethau.
Rydym yn chwilio am straeon da a drwg fel ein bod yn deall beth sy'n gweithio'n dda a sut y gallai fod angen i wasanaethau wella. Ac rydym yn ceisio siarad yn arbennig â'r rhai nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed yn aml.
Gallwch gysylltu â ni sut bynnag sy'n addas i chi i ddweud wrthym am eich profiadau - e-bost, ffôn neu drwy ein ffurflen gyswllt.
Rydyn ni hefyd yn siarad â phobl am eu barn a’u profiadau trwy gynnal digwyddiadau yn eich cymunedau lleol neu ymweld â chi ble bynnag rydych chi’n derbyn eich gwasanaeth iechyd neu ofal cymdeithasol.
Rydym hefyd yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a grwpiau â diddordeb ac yn unol â mentrau cenedlaethol i gasglu barn pobl.
A phan aiff pethau o chwith rydym yn eich cefnogi i wneud cwynion.
Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn gweithio ar hyd a lled Cymru felly bydd gennych gyngor a chefnogaeth leol yn eich ardal. Ac rydym yn cynnal digwyddiadau lleol rheolaidd lle gallwch ddarganfod mwy amdanom, rhannu eich straeon wyneb yn wyneb neu ofyn i chi am eich barn ar wasanaethau penodol.
Mae ein gwaith ar gyfer pobl Cymru, felly gallwch ddarllen ein cynlluniau yma a phapurau ein Bwrdd blaenorol yma. Mae croeso i chi ymuno â'n cyfarfodydd Bwrdd a gynhelir unwaith y mis mewn gwahanol leoliadau.