Blaenoriaeth 03: Gwneud hi’n hawdd cysylltu â chi a’n partneriaid, trwy fod yn hygyrch ac yn gynhwysol.
Ffyrdd o weithio Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a fydd yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith hwn yw:
Cydweithio // Integreiddio // Cynnwys // Hirdymor // Atal
I wneud i hyn ddigwydd byddwn yn:
Creu dulliau, offer a ffyrdd newydd o ymgysylltu a chyfathrebu i ddysgu cymaint ag y gallwn am sut mae gwasanaethau’n gweithio i chi.
Datblygu ein cynllun cydraddoldeb strategol mewn ffordd sy’n gwneud i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant redeg drwy bopeth a wnawn.
Paratoi i weithio gyda set gyffredin o safonau fel y gall pobl ym mhob rhan o Gymru weithio i ni a gyda ni yn hawdd ac yn gyson yn y Gymraeg.
Gwella gwybodaeth, dealltwriaeth a hyder ein pobl wrth weithio gyda chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Sicrhau bod tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn fusnes i bawb. Darparu cefnogaeth ym mhob rhanbarth a dod â phobl ynghyd i rannu syniadau a dysg fel ein bod yn meddwl am, yn nodi ac yn gweithredu lle bynnag y byddwn yn dod ar draws rhwystrau i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn.
Cymryd camau i ddeall a chynyddu amrywiaeth ein pobl fel ein bod yn adlewyrchu ein cymunedau amrywiol ledled Cymru yn well.
Cael gwell gwybodaeth a’i defnyddio i ddeall yr amrywiaeth a cynrychiolaeth o fewn cymunedau lleol fel man cychwyn ar gyfer adeiladu a chynyddu ein cysylltiadau parhaus gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol – fel y gallwn helpu i sicrhau bod llais pawb
yn cael ei glywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
Meithrin dealltwriaeth o’r hyn y mae angen inni wneud mwy ohono, neu’n wahanol, fel ein bod yn meithrin ymddiriedaeth fel sefydliad sy’n wrth-hiliaeth a lle mae pobl anabl, LGBTQIA+, a phobl ag anghenion cyfathrebu gwahanol yn teimlo’n groesawgar, yn gyfforddus ac yn cael eu gwerthfawrogi trwy eu cyfranogiad yn ein gwaith.
Sut olwg allai fod ar lwyddiant?
Cynhyrchu cynllun cydraddoldeb strategol sy’n rhoi cyfleoedd ymarferol i ni weithredu ar ein hymrwymiad i sicrhau bod tegwch, amrywiaeth achynhwysiant yn rhedeg drwy bopeth a wnawn.
Gallu dangos sut rydym wedi meddwl sut y gallai ein cynlluniau a’n penderfyniadau effeithio ar bobl a’r hyn y mae angen i ni ei wneud i wneud y gwahaniaeth mwyaf cadarnhaol.
Mae ein pobl yn dechrau teimlo bod ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen arnyn nhw i’w helpu i gysylltu’n hawdd, gan feithrin dealltwriaeth a chael effaith i ddiwallu gwahanol anghenion ein pobl a’n cymunedau ledled Cymru.
Mae’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn gwybod ac yn teimlo eu bod nhw’n gallu cysylltu yn y ffordd maen nhw eisiau, yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn gwybod pa wahaniaeth sydd gan eu cyfranogiad.
Gallwn ddangos sut rydym wedi dechrau meithrin perthynas â chymunedau amrywiol ledled Cymru fel y gallwn fynd ati i’w cyrraedd a’u cynnwys yn yr hyn a wnawn.
Mae ein polisïau, ein gweithdrefnau a’n canllawiau yn hyrwyddo ac yn helpu i sicrhau ein bod yn cymryd agwedd deg, hygyrch a chynhwysol ym mhopeth a wnawn.
>> Blaenoriaeth 04: Siarad i helpu i gadw pobl yn ddiogel pan nad yw pethau’n iawn