Blaenoriaeth 04: Siarad i helpu i gadw pobl yn ddiogel pan nad yw pethau’n iawn
Ffyrdd o weithio Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a fydd yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith hwn yw:
Cydweithio // Cynnwys // Atal
I wneud i hyn ddigwydd byddwn yn:
Defnyddio yr hyn a glywn trwy ein gweithgareddau i ddeall sut mae’r Dyletswyddau Gonestrwydd ac Ansawdd newydd yn gweithio i wella gofal a phrofiad y rhai sydd angen gofal iechyd.
Datblygu sut rydym yn defnyddio data a gwybodaeth i weithio gyda’n gilydd a gyda’n partneriaid yng Nghymru a ledled y DU i nodi, rhannu a gweithredu ar bryderon am ddiogelwch unigolion a gwasanaethau.
Datblygu’r cysylltiadau rhwng ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion, ein gweithgareddau eraill, ein cynlluniau a’n hadroddiadau a datblygiadau ehangach fel y Dyletswyddau Gonestrwydd ac Ansawdd.
Sut olwg allai fod ar lwyddiant?
Mae ein pobl yn fwy hyderus ynghylch cyflwyno’r Dyletswyddau Ansawdd a Gonestrwydd a gallwn roi adborth i ddarparwyr gwasanaethau a Llywodraeth Cymru ar sut mae’r dyletswyddau’n effeithio ar bobl ledled Cymru.
Adnabod a siarad ar arwyddion rhybudd cynnar am ddiogelwch unigolion neu wasanaethau fel y gall eraill weithredu’n gyflym. Er mwyn gwneud hyn byddwn yn:
Cytuno ar ffyrdd newydd o weithio a threfniadau partneriaeth rhwng ein
Gwasanaeth Eiriolaeth Cwynion ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Adolygu a datblygu ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion a chefnogi ein pobl i ddatblygu eu harferion.
Mae gan bobl y siawns orau o gael yr atebion sydd eu hangen arnynt ac mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwella o ganlyniad.
>> Blaenoriaeth 05: Adeiladu llais cryf ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru