Blaenoriaeth 05: Adeiladu llais cryf ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru
Ffyrdd o weithio Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a fydd yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith hwn yw:
Cydweithio // Integreiddio // Cynnwys
I wneud i hyn ddigwydd byddwn yn:
Gwella gwybodaeth sefydliadol am ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Meithrin perthnasoedd mewn gofal cymdeithasol: darparwyr gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau, elusennau a phobl a sefydliadau eraill sy’n cefnogi pobl mewn gofal cymdeithasol fel gofalwyr a theuluoedd.
Creu cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu wedi’u cynllunio i glywed beth sydd bwysicaf i chi am eich gwasanaethau cymdeithasol.
Hyrwyddo ein gwasanaethau, yn enwedig ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion, gydag Awdurdodau Lleol a darparwyr gwasanaethau a’u cefnogi i gyflawni eu dyletswydd i hyrwyddo ein gwasanaethau.
Sut olwg allai fod ar lwyddiant?
Mae ein pobl yn fwy hyderus yn gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol oherwydd bod ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth dda o sut mae pethau’n gweithio.
Mae mwy o bobl yn gwybod amdanom ym maes gofal cymdeithasol ac yn hyrwyddo ein gwasanaeth i’r rhai sydd ein hangen.
>>Blaenoriaeth 06: Datblygu ein pobl, denu pobl newydd a chefnogi eu cyfranogiad yn ein gwaith.