Blaenoriaeth 07: Bod yn sefydliad uchelgeisiol sy’n cael ei redeg yn dda, y gellir ymddiried ynddo
Ffyrdd o weithio Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a fydd yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith hwn yw:
Cydweithio // Integreiddio // Cynnwys
I wneud i hyn ddigwydd byddwn yn:
Cefnogi ein timau i gydweithio’n dda ac mewn ffordd sy’n bodloni ein cyfrifoldebau cyfreithiol a’n cyfrifoldebau sector cyhoeddus eraill drwy:
- datblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ein pobl mewn llywodraethu da, rheoli arian cyhoeddus a rheoli cofnodion.
- adolygu ein trefniadau llywodraethu yn erbyn y safon uchaf a gweithio ar gynllun i wneud pethau’n well lle mae angen inni wneud hynny.
- edrych ar sut rydym yn cyflawni ein tasgau a gwneud newidiadau i’w gwneud yn well i bawb lle mae angen inni wneud hynny
Byddwn yn cytuno pa werthoedd rydym yn credu ynddynt ac yn defnyddio hyn i weithio ar ein:
- diwylliant sefydliadol
- fframwaith ymddygiad,
- fframwaith sgiliau a gallu,
- dull asesu perfformiad diwygiedig a
- ein cynllun dysgu a datblygu cenedlaethol.
Cyd-gynhyrchu ein Gweledigaeth Strategol am y 3 i 5 mlynedd nesaf. Bydd hwn yn nodi nodau uchelgeisiol i helpu i wneud i iechyd a gofal cymdeithasol weithio orau i chi ledled Cymru, eich helpu i gymryd rhan mewn ffyrdd sy’n gweithio i chi, a gwneud yn siŵr bod mwy ohonoch, gyda phrofiadau mwy amrywiol, yn dweud eich dweud.
Datblygu mwy o ffyrdd i’n pobl chwarae rhan weithredol yn nyfodol y sefydliad. Byddwn yn darparu gwell cyfleoedd ar gyfer datblygu a dysgu, mwy o gyfleoedd i awgrymu a bod yn rhan o ffyrdd newydd o weithio, a dod â phobl â diddordebau tebyg at ei gilydd i rannu.
Sut olwg allai fod ar lwyddiant?
Mae ein pobl yn teimlo eu bod wedi bod yn rhan o osod ein cyfeiriad, eu bod yn gwybod, yn deall ac yn teimlo’n rhan o’n taith a’r hyn a ddisgwylir ganddynt i gyflawni ein nodau.
Mae’r ffordd yr ydym yn trefnu ein hunain, yn gwneud penderfyniadau ac yn adolygu sut yr ydym yn gwneud yn rhoi’r cyfle gorau inni wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bawb sy’n byw yng Nghymru, mewn ffordd sy’n ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau a’n cyfrifoldebau.
Mae’r ffordd yr ydym yn cyflawni ein gweithgareddau yn gweithio i bawb