Dod yn wirfoddolwr
Hoffech chi helpu i benderfynu ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru? Mae dod yn wirfoddolwr Llais yn ffordd wych o wneud yn siŵr bod eich llais chi a lleisiau eich cymuned yn cael eu clywed gan y rheini sy’n penderfynu ac yn rheoleiddio sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu.
Mae angen mwy o leisiau, i gael mwy o effaith
Beth bynnag fo’ch oedran, eich cefndir, ffydd neu ryw, rydyn ni eisiau clywed am eich profiadau – da neu ddrwg. Mae angen mwy o leisiau ym mhob cymuned, o bob cwr o Gymru, er mwyn cael mwy o effaith o ran llunio gwasanaethau sy’n adlewyrchu holl anghenion ein cymdeithas.
Fel gwirfoddolwr, byddwch chi’n:
- Cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ein cylchlythyr
- Cael hyfforddiant am ddim, cefnogaeth a datblygu eich sgiliau
- Dylanwadu ar flaenoriaethau gwaith y dyfodol yn y cynllun blynyddol
- A rhoi gwybod i fwy o bobl am Llais a chyfrannu at wasanaethau gwell