Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Cynllun Blynyddol Llais 2024-2025

Cyflwyniad i’n taith

Mae ein blwyddyn gyntaf wedi bod yn ymwneud â gwrando, dysgu a gweithio gydag eraill i ddeall yr hyn yr ydych ei eisiau a’i angen gan eich gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Fe wnaethom nodi ein cynlluniau ar gyfer ein blwyddyn gyntaf yn ein cynllun 100 diwrnod ac Ein Cynlluniau a Blaenoriaethau (Hydref 2023 - Mawrth 2024). Byddwn yn adrodd yn fanylach ar sut aeth hyn yn ein
Hadroddiad Blynyddol yn ddiweddarach eleni. 

Roedd gennym lawer i’w wneud i sicrhau ein bod yn cael y pethau sylfaenol yn iawn i’n helpu ni i’ch cefnogi chi, i ffurfio partneriaethau newydd, ac i fod yn sefydliad sy’n cael ei redeg yn annibynnol.

Bydd hyn yn parhau i mewn i 2024, a 2025. Rydym hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw hi eich bod yn gweld, ac yn teimlo, ein heffaith. Felly rydym wedi gwneud yn siŵr ein bod wedi meddwl sut i wneud hyn yn fwy ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2024-2025.

Ein ffyrdd o weithio

Gweledigaeth

Credwn mewn Cymru iachach. System iechyd a gofal cymdeithasol lle mae pobl yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn ffordd sy’n gweithio orau iddynt, ac sy’n barod ar gyfer beth bynnag a ddaw yn y dyfodol.

Cenhadaeth

Rydym am wneud ein cenhadaeth i wrando’n ofalus, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ac i gynyddu effaith lleisiau pobl wrth lunio gwasanaethau.

Rydym yn gweithio gyda phobl Cymru i roi llais cryfach ichi, a chynrychioli eich buddiannau, pan ddaw i iechyd a gofal cymdeithasol.

Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • Ymgysylltu – rydym yn ymgysylltu ac yn gwrando arnoch chi am eich profiadau o  iechyd a gofal cymdeithasol. Efallai y byddwch yn ein gweld ni allan yn eich cymuned, mewn  digwyddiadau, neu mewn sesiynau galw heibio. Rydyn ni'n ceisio cwrdd â chi yn y lleoedd sy'n gweithio i chi.
  • Cynrychioliadau – rydym yn cynrychioli eich barn i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ym maes iechyd  a gofal cymdeithasol. Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid iddyn nhw roi gwybod i ni beth maen nhw'n bwriadu ei wneud â'ch barn a'ch profiadau rydyn ni'n eu rhannu.
  • Eiriolaeth cwynion – rydym yn helpu ac yn cefnogi pobl pan fydd pethau’n mynd o chwith, ac maen nhw eisiau gwneud cwyn drwy broses gwyno ffurfiol y GIG (o’r enw Gweithio i Wella) neu eu hawdurdod  lleol. Rydym hefyd yn darparu cyngor lle y gallwn i’r rhai nad ydynt wedi dechrau’r broses hon.
  • Cyfathrebu a hyrwyddo – Byddwn yn sicrhau eich bod yn gwybod am ein  gwasanaethau fel bod mwy o bobl yn gallu dweud eu dweud. Mae gan y Cyrff Iechyd a’r  Awdurdodau Lleol hefyd ddyletswydd gyfreithiol i hyrwyddo ein gwasanaethau, hefyd.

Gwerthoedd ac ymddygiadau

Rydyn ni’n anelu at osod y safon, gwrando’n ofalus, ac ymuno ag eraill i wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud y gwaith yn dda. Bydd ein gwerthoedd a’n hymddygiad yn ein helpu i wneud hyn.

Person-ganolog
Cydweithio
Uniondeb

Ein Cynllun Busnes Blynyddol 2024-2025

Dyma ein cynllun blynyddol cyntaf. Mae wedi’i greu gan ddefnyddio’r hyn a
ddywedwyd wrthym gennych chi (pobl Cymru), gan ein pobl (ein staff a’n
gwirfoddolwyr), a’r sefydliadau eraill rydym yn gweithio gyda nhw.

Mae ein cynllun blynyddol yn nodi’r hyn y byddwn yn ei wneud y flwyddyn
ariannol hon (Ebrill 2024-Mawrth 2025) i’n helpu i gyflawni’r blaenoriaethau yr
ydym wedi’u nodi yn ein Cynllun Strategol 3 blynedd 2024-2027 ‘Sgwrs
Genedlaethol’.

Rydyn ni’n mynd i gadw’r sgwrs fawr i fynd am sut ddylai iechyd a gofal cymdeithasol edrych yn y dyfodol. Rydyn ni eisiau syniadau pawb - o bob man a phob cefndir yng Nghymru - i helpu i wneud i iechyd a gofal gydweithio’n well i chi.

Ein nod yw bod llunwyr polisi, llywodraethau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwrando ar yr hyn rydych chi’n ei ddweud ac yn gweithredu fel bod pethau’n gweithio yn y ffordd rydych chi ei angen a’ch dymuniad nawr ac yn y dyfodol.

Er mwyn ein helpu i wneud hyn, yn 2024-2025 byddwn yn:

Darganfod sut y gallwch chi ddweud eich dweud
Fe wnawn ni brosiect i ddarganfod beth sydd eisoes yn cael ei wneud yn eich cymuned i’ch helpu chi i ddweud eich dweud. Byddwn yn darganfod beth sy’n cael ei ddweud, a sut mae gwasanaethau’n gwrando ar eich syniadau. Byddwn yn mapio’r cyfan i roi darlun rhanbarthol a chenedlaethol i ni. Byddwn yn rhannu’r hyn sy’n gweithio’n dda gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru fel y gallant roi cynnig ar yr hyn sy’n gweithio hefyd.

Siarad â mwy o bobl
Unwaith y byddwn ni’n deall beth sy’n gweithio a beth sydd ar goll, rydyn ni’n mynd i gael ein tîm i siarad â grwpiau a chynrychiolwyr yn eich cymuned a gyda phobl tra maen nhw’n derbyn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydyn ni eisiau clywed gan gynifer o bobl â phosib oherwydd po fwyaf o bobl sy’n siarad, y newidiadau gorau y gallwn ni helpu i’w gwneud. Byddwn yn helpu ein cymunedau i siarad am y pethau sydd angen eu newid ac yn defnyddio’r wybodaeth honno, gyda’r holl bethau eraill y byddwn yn eu darganfod, i weithio gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau fel y gallant weithredu i wella pethau.

Llais Lleol – dod i’ch ardal
Rydym yn lledaenu Llais Lleol ar hyd a lled Cymru. Mae hyn yn golygu y byddwn yn dod i amrywiaeth o drefi a chymdogaethau lleol i glywed beth sy’n bwysig i chi a’ch ffrindiau a’ch cymdogion.

Byddwn yn gweithio gyda chlybiau lleol, elusennau, a  wasanaethau
iechyd a gofal cymdeithasol i’w gwneud yn hawdd i chi ddweud eich barn wrthym. Rydym yn bwriadu ymweld â phob rhanbarth yng Nghymru o leiaf 3 gwaith eleni, a byddwn yn rhoi gwybod ichi pan fyddwn yn dod er mwyn i chi allu ymuno.

Cydweithio â Chomisiwn Bevan
Rydym yn ymuno â grŵp o bobl o’r enw Comisiwn Bevan. Maen nhw i gyd am wneud iechyd a gofal yn well hefyd. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n defnyddio’r hyn rydyn ni’n ei wybod,
a’r bobl rydyn ni’n eu hadnabod, i ddod o hyd i ffyrdd gwell fyth o wrando arnoch chi a helpu i fynd i’r afael â’r pethau mawr y bydd gwasanaethau iechyd a gofal yn eu hwynebu yn y dyfodol.

Unwaith y byddwn i gyd wedi ein sefydlu gyda Chomisiwn Bevan, byddwn yn gwneud cynllun ar gyfer y 3 blynedd nesaf. Byddwn yn dechrau drwy ddod ynghyd â’r bobl sy’n cynllunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarganfod sut i ddatrys problemau gyda’n gilydd ar gyfer gwell dyfodol iechyd a gofal.


Gwirio i mewn ar Ddyletswyddau Gonestrwydd ac Ansawdd
Ym mis Ebrill 2023 cyflwynodd Cymru rai rheolau newydd. Mae’r rhain yn ymwneud â’r hyn sydd angen digwydd i helpu i sicrhau bod gwasanaethau iechyd o ansawdd da ac i fod yn onest ac yn agored gyda phobl y mae eu gofal wedi mynd o’i le. Byddwn yn gwneud darn o waith sy’n gwrando ar eich barn chi ac eraill am sut mae’r rheolau hyn yn gweithio. Byddwn yn dweud wrth GIG Cymru’r hyn a glywsom ac a oes angen gwneud newidiadau i helpu pethau i weithio’n well.

Sut olwg allai fod ar lwyddiant erbyn mis Mawrth 2025:

Bydd yn glir sut beth yw ymgysylltu ac adborth ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae grwpiau cymunedol, ac arweinwyr, â diddordeb yn y system adborth ac yn gysylltiedig â hi. Ac rydym yn dechrau casglu mwy a mwy o safbwyntiau ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Ymrwymiad Cymunedol Eang: trwy wneud Llais Lleol ym mhob un o’n rhanbarthau, ac ymuno â Chomisiwn Bevan rydym yn cynnwys mwy a mwy o bobl leol i ddweud eu dweud ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru nag o’r blaen. Mae gan GIG Cymru ddarlun cliriach, yn seiliedig ar eich adborth, o sut mae’r Dyletswyddau Ansawdd a Gonestrwydd yn gweithio a sut y gallai pethau weithio’n well.

Byddwn yn codi ein llais i wneud iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn well, yn fwy cynhwysol, yn haws cael gafael arnynt, ac yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar bobl yng Nghymru.

Ein blaenoriaeth yw helpu pawb i gael iechyd a gofal cymdeithasol gwych, a chael gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol bob amser yn me ddwl am fod yn deg ac yn agored i bawb, gan gynnwys pawb, a rhoi anghenion pobl yn gyntaf (gwasanaethau person ganolog).

Er mwyn ein helpu i wneud hyn, yn 2024 2025 byddwn yn:

Gwrando mwy
Rydyn ni eisiau dod yn well fyth am wrando ar yr hyn sydd gan bawb i’w ddweud a sut gallwn ni helpu i wella pethau. Ein nod yw clywed gan fwy o bobl nag a wnawn ar hyn o bryd. Felly byddwn yn gwneud mwy o gyfleoedd a ffyrdd i bobl rannu eu profiadau.

Erbyn y flwyddyn nesaf rydym am gynyddu nifer y bobl rydym wedi clywed ganddynt o leiaf 30%.

Canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar bob ardal
Rydyn ni wedi gwrando ar bobl leol am yr hyn maen nhw’n meddwl yw’r materion iechyd a gofal cymdeithasol pwysicaf sydd angen eu trwsio mewn gwahanol leoedd. Byddwn yn gwneud gwaith wedi’i dargedu i ddarganfod llawer mwy am y 3 phrif beth a godwyd gan bobl ym mhobardal.

Rhain yw:

Caerdydd a Bro Morgannwg
1. Cael gofal a thriniaeth yn gyflym pan fydd ei angen arnoch
2. Cael babi
3. Byw gyda Chanser

Cwm Taf Morgannwg
1. Cael cefnogaeth i aros yn iach os oes gennych anabledd dysgu
2. Gwasanaethau dydd yn ein cymunedau
3. Bwyd a diod mewn ysbytai

Gwent
1. Gwasanaethau cymunedol (iechyd a gofal cymdeithasol)
2. Cael gofal yn gyflym pan mae ei angen arnoch chi
3. Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe
1. Cymunedau lleiafrifoedd ethnig
sy’n byw gyda dementia
2. Cael babi
3. Iechyd meddwl pobl ifanc

Gogledd Cymru
1. Helpu i wella iechyd meddwl
2. Helpu i wella gwasanaethau fasgwlaidd
3. Effaith ‘Mesurau Arbennig’ ar bobl a gwasanaethau

Powys
1. Gofal a chymorth yn nes at adref
2. Cael gofal da ble bynnag yr ydych yn byw ym Mhowys
3. Cefnogi gofalwyr 

Gorllewin Cymru
1. Cael cefnogaeth wrth aros am driniaeth
2. Cefnogi gofalwyr
3. Iechyd meddwl pobl ifanc

Ehangu ein gwaith Cymru Gyfan
Byddwn yn parhau i ymchwilio i’r pethau a glywn am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru. Sef cael cymorth yn eich meddygfa, deintydd a fferyllfa, a’ch cymorth iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned yn dilyn arhosiad yn yr ysbyty.

Ymestyn Ymchwil a datblygu polisi
Byddwn yn edrych yn fanylach ar bethau lle rydym wedi clywed eich bod yn gweld gwasanaethau’n heriol a’u bod yn cael effaith fawr. Byddwn yn defnyddio’r hyn rydym yn ei ddarganfod am o leiaf 2 beth i alw ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weithredu , a gweithio gyda nhw i helpu i wneud i hyn ddigwydd.

Newidiadau i wasanaethau
Byddwn yn parhau i siarad â gwasanaethau iechyd a cymdeithasol am eu cynlluniau, ac yn gwneud yn siŵr eich bod
yn cael eich cynnwys a bod rhywun yn gwrando arnoch yn y ffyrdd cywir.

I’n helpu i wneud hyn byddwn yn creu ffordd o ymdrin â’r holl
newidiadau gwasanaeth y clywn amdanynt. Lle mae angen i ni gamu i mewn a gweithio gyda chi ar y newid, fe wnawn ni hynny.

Byddwn hefyd yn dod o hyd i ffordd dda o rannu’n rheolaidd pa gyfranogiad rydym wedi’i gael a pha effeithiau a gafodd ar unrhyw newidiadau.

Bwrw ymlaen â’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Byddwn yn helpu ein pobl i ddeall sut i chwarae eu rhan wrth gyflawni’r cynllun. Byddwn yn creu gweithgor i’n helpu i fwrw ymlaen â’n cynlluniau gweithredu, ac i ddod o hyd i ffyrdd o adlewyrchu tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob maes o’n gwaith.

Diogelu pobl
Byddwn yn adolygu ac yn gwella’r ffordd yr ydym yn ymdrin â diogelwch cleifion a materion diogelu. Byddwn yn chwarae ein rhan mewn mentrau cenedlaethol a arweinir gan eraill i sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau pobl Cymru yn cael eu cynrychioli yng Nghymru a thu hwnt.

Ehangu ymgysylltiad rhanddeiliaid
Byddwn yn cryfhau partneriaethau gyda rhanddeiliaid allweddol fel Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg Gwella Iechyd Cymru – gan ganolbwyntio ar heriau’r gweithlu a chefnogi pobl i ddeall beth mae gwahanol staff yn ei wneud ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Adeiladu llais cryfach ym maes gofal cymdeithasol
Rydym wedi dechrau meithrin perthnasoedd da ym maes gofal cymdeithasol. Mae angen i ni wneud mwy fel bod mwy o bobl yn gwybod amdanom ac yn deall sut y gallwn eu helpu. Bydd pob un o’n rhanbarthau’n creu cynlluniau fel ein bod yn clywed gan o leiaf 25% fwy o bobl, darparwyr gwasanaethau, elusennau a sefydliadau eraill sy’n cefnogi pobl mewn gofal cymdeithasol nag a wnaethom y llynedd.

Datblygu ein gwasanaeth eiriolaeth ac ymholiadau cwynion
Byddwn yn gwneud ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion yn fwy syml a chyffredin ledled Cymru – fel y gallwn gefnogi mwy o bobl a gwella eu profiad, gan gynyddu ein hadborth cadarnhaol. Byddwn hefyd yn edrych ar ein hymholiadau ac yn defnyddio’r data hwn i’n helpu i benderfynu beth y dylem ei wneud yn y dyfodol.

Sut olwg allai fod ar lwyddiant erbyn mis Mawrth 2025:

Mwy o adborth gan gymunedau
Rydym yn chwilio am ac yn gwrando ar ystod ehangach o leisiau, straeon a phrofiadau nag erioed o’r blaen. Mae hyn yn golygu y bydd gennym adborth gwell, mwy amrywiol i arwain gwelliannau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwelliannau wedi’u targedu yn seiliedig ar anghenion lleol
Rhai ymyriadau a chynrychiolaethau llwyddiannus yn y 3 mater iechyd a gofal cymdeithasol uchaf a nodwyd ym mhob rhanbarth.

Ymchwil a newidiadau polisi grymus
Mae ein hymchwil, a’ch lleisiau chi, yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau ar strategaethau iechyd neu ofal cymdeithasol lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.

Newidiadau gwasanaeth sy’n cwrdd â’ch anghenion
Cyfathrebu’n glir a hawdd ei ddeall am y newidiadau i wasanaethau yr ydym wedi dylanwadu arnynt, gan ddangos sut yr arweiniodd eich cyfranogiad at wella gwasanaethau.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol i fod yn fwy cydgysylltiedig, gan helpu gwasanaethau i weithio’n dda gyda’i gilydd i gyfateb i’r hyn sydd ei angen ar ein cymunedau yn y meysydd sydd bwysicaf.

Ni all un sefydliad wneud hyn ar ei ben ei hun. Rydym am ymuno â phobl o bob sector a defnyddio eu cryfderau a’u profiadau i helpu i wella gwasanaethau, i rannu’r hyn sy’n gweithio’n dda ac i osgoi dyblygu a gwastraff.

Er mwyn ein helpu i wneud hyn, yn 2024-2025 byddwn yn:

Cynrychioli eich llais ym mhobman
Boed yn grwpiau lleol, partneriaethau rhanbarthol, awdurdodau a byrddau, neu gyrff cenedlaethol, byddwn yn sicrhau bod eich profiadau a’ch anghenion yn cael eu cynrychioli yn y meysydd sydd bwysicaf i chi. Drwy fod yn seinfwrdd ac yn ffrind beirniadol, byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol bob amser yn symud i’r cyfeiriad cywir.

Cydweithio
Byddwn yn gweithio’n agos ag eraill sy’n ceisio gwella iechyd a gofal cymdeithasol fel ein bod yn cryfhau eich llais ymhellach. Mae hyn yn cynnwys y gwahanol Gomisiynwyr yng Nghymru sydd i gyd yn gweithio’n galed i ganolbwyntio ar wahanol grwpiau o bobl, cyrff cenedlaethol fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, cyrff cynrychioliadol proffesiynol a rheoleiddwyr fel Gofal Cymdeithasol Cymru, ac arolygwyr fel Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Ymgysylltu â mwy o swyddfeydd cenedlaethol
Byddwn yn cydweithio â’r Swyddfa Genedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth, Gweithrediaeth y GIG, Conffederasiwn y GIG, a chyrff gwarchod fel yr Arolygiaeth Gofal a’r Arolygiaeth Gofal Iechyd. Bydd hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr bod lleisiau ac anghenion cymunedau yn cael eu clywed ac yn cael sylw ar bob lefel o iechyd a gofal cymdeithasol.

Lansio Rhaglen Wledig
Gan gydnabod yr heriau unigryw a wynebir gan ardaloedd gwledig, byddwn yn cyflwyno gweithgor a rhaglen benodol gyda’r nod o wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y tu allan i ganolfannau trefol.

Cynnal uwchgynhadledd cwynion
Yn y modd hwn, gall iechyd, gofal cymdeithasol, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus a ninnau ddysgu gyda’n gilydd o’ch profiadau i wneud yn siŵr ei fod yn arwain at newidiadau gwirioneddol yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu - i helpu i lunio system iechyd a gofal cymdeithasol gwell.

Rhannu mwy o’r hyn sy’n gweithio
Byddwn yn tynnu sylw at ac yn rhannu’r straeon llwyddiant o bob rhan o iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy dynnu sylw at yr hyn sy’n gweithio ac annog eraill i fabwysiadu’r dulliau hyn, rydym am helpu i ledaenu’r hyn sy’n gweithio ymhell ac agos. Bydd hyn yn helpu i wella gwasanaethau i fwy o bobl ac osgoi gwastraff ac ailadrodd.

Parhau i gyfrannu at Uwchgynadleddau Gofal Iechyd
Mae’r cynulliadau hyn yn dod â phawb sy’n ymwneud ag adolygu a gwella gwasanaethau ynghyd i rannu’r hyn a wyddom am sut mae gwahanol gyrff y GIG yn perfformio ac i nodi materion Cymru gyfan – fel y gellir cytuno ar gamau gweithredu i wella iechyd a gofal i bawb.


Ymgysylltu â mwy o bobl ifanc
Rydyn ni’n ei gwneud hi’n flaenoriaeth gwrando ar fwy o grwpiau a chyrff sy’n cynrychioli pobl ifanc a gweithio gyda nhw. Byddwn yn cael eu cyngor ar sut i wella ein gwasanaethau ein hunain i’n helpu i ddarganfod beth sydd ei angen a’r hyn y mae pobl ifanc ei angen gan eu hiechyd a’u gofal cymdeithasol.

Gwneud mwy o gytundebau cydweithio
Rydym yn sefydlu cytundebau ffurfiol gyda sefydliadau eraill. Nid gwaith papur yn unig yw hwn - mae’n addewid i weithio law yn llaw â phartneriaid ar draws pob sector i wella iechyd a gofal cymdeithasol.

Cynnwys mwy o randdeiliaid yn ein prosiectau a’n mentrau
cenedlaethol
Pan fyddwn yn cynllunio prosiectau cenedlaethol sy’n edrych i mewn i’r materion mawr, nid yn unig y byddwn yn eich gwahodd i fod yn rhan ohono. Byddwn yn gwahodd cynrychiolwyr o grwpiau eraill sy’n ymwneud â gwneud iechyd a gofal cymdeithasol yn well i fod yn rhan o’n cynllunio a’n darpariaeth, ac i fwrw ymlaen â newidiadau yn uniongyrchol.

Sut olwg allai fod ar lwyddiant erbyn mis Mawrth 2025:

Rydyn ni’n gwrando ac yn gwneud newidiadau gyda’n gilydd
Rydym wedi dod â phobl ynghyd i feddwl am ddysgu o gwynion, ac wedi cynrychioli eich diddordebau mewn llawer o leoedd. Oherwydd hyn, rydym wedi dechrau gwneud system adborth cryfach sy’n cymryd syniadau a chwynion pawb ac yn eu defnyddio i wneud iechyd a gofal cymdeithasol yn well. Felly, pan fyddwch yn dweud wrthym beth nad yw’n gweithio, ‘rydym i gyd’ yn gwrando’n wirioneddol ac yn gweithio i’w drwsio.

Rhannu syniadau
Daethom o hyd i ffyrdd clyfar iawn o wneud iechyd a gofal cymdeithasol yn well ac yn llai gwastraffus. Nawr, rydyn ni’n dweud wrth bawb am y syniadau craff hyn ac maen nhw’n dechrau eu defnyddio hefyd.

Cydweithio â grwpiau ieuenctid
Rydyn ni wedi creu perthnasoedd cryf gyda phobl ifanc, neu grwpiau sy’n gwrando ar bobl ifanc ac rydyn ni wedi dechrau sicrhau bod y lleisiau ifanc hynny’n cael eu clywed gan y bobl sy’n cynllunio ac yn rhedeg iechyd a gofal cymdeithasol, fel eu bod nhw’n gwybod yr hyn y mae pobl ifanc ei angen a’i eisiau.

Rydym yn cydweithio’n well
Gwnaethom gytundebau â llawer o wahanol grwpiau iechyd, grwpiau gofal a grwpiau trydydd sector, i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd, heb wneud yr un gwaith ddwywaith. Mae hyn yn golygu ein bod ni i gyd yn ymuno i wneud i iechyd a gofal cymdeithasol weithio i bawb yng Nghymru.

Mae’r gyfradd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cyflwyno offer digidol, strategaethau data-yredig, a Deallusrwydd Artiffisial (AI) moesegol yn cynyddu. Gall y pethau hyn wneud gwasanaethau’n haws ac yn gyflymach i bawb.

Mae’n naturiol i bobl deimlo ychydig yn ansicr ynglŷn â’u defnyddio, neu boeni am bethau fel sut mae eu gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu a’i chadw’n ddiogel. Rydyn ni eisiau helpu pobl a gwasanaethau i siarad â’i gilydd fel bod pawb yn teimlo’n iawn gyda’r offer a’r technolegau newydd hyn, gall pawb eu defnyddio os ydyn nhw’n dymuno a does neb yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl.

Er mwyn ein helpu i wneud hyn, yn 2024-2025 byddwn yn:

Cynrychioli chi ar Ap GIG Cymru
Byddwn yn cynrychioli eich llais pan ddaw i Ap newydd GIG Cymru, gan wneud yn siŵr ei fod yn diwallu eich anghenion. Trwy gasglu’r hyn rydyn ni’n ei glywed, a rhannu’r hyn rydyn ni’n gwybod sy’n bwysig i chi gyda’r datblygwyr, gallwn ni helpu i siapio’r ap mewn ffordd sy’n cwrdd â’ch anghenion.

Hyrwyddo defnydd diogel a rhannu data personol
Mae eich preifatrwydd yn bwysig. Byddwn yn lleisio eich pryderon a’ch cwestiynau ynghylch sut mae offer digidol yn defnyddio ac yn diogelu eich data personol. Drwy gynrychioli eich buddiannau, byddwn yn gwthio am y safonau uchaf o breifatrwydd a diogelwch data mewn offer digidol iechyd a gofal cymdeithasol – a gwneud yn siŵr bod gennych chi lais yn y ffordd y caiff eich data ei rannu.

Cefnogi mentrau cynhwysiant digidol
Rydym yn deall nad yw pawb yn teimlo’n barod i ddefnyddio offer iechyd digidol neu efallai nad oes ganddynt ffordd o’u defnyddio. Dyna pam y byddwn yn darganfod mwy am y rhwystrau y gallech eu hwynebu ac yn eiriol dros raglenni sy’n helpu pawb i ddysgu a theimlo’n gyfforddus â’r technolegau hyn, i helpu i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Gwella ein gwybodaeth am ddatblygiadau digidol
Rydyn ni yma i ddysgu am y diweddaraf ym maes iechyd a gofal digidol hefyd. Drwy gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ac arloeson digidol, gallwn gynrychioli eich llais yn well a gwneud y strategaethau digidol a ddatblygir gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o fudd gwirioneddol i chi.

Cael help gyda’n strategaeth gwasanaethau digidol
Byddwn yn gweithio’n agos ag eraill fel y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru i helpu i gynllunio ein strategaeth ddigidol i wneud yn siŵr ei bod gwir yn diwallu eich anghenion ac yn gwneud ein gwasanaethau’n well i bawb.

Sut olwg allai fod ar lwyddiant erbyn mis Mawrth 2025:

Rydym wedi chwarae ein rhan i gefnogi Ap GIG Cymru i ddod yn arf y gellir ymddiried ynddo sy’n hawdd i bawb ei ddefnyddio.

Mae eich lleisiau ar breifatrwydd, diogelwch data a rhannu data wedi arwain at safonau ac esboniadau clir ynghylch sut y caiff eich gwybodaeth ei chadw’n ddiogel a’i rhannu. Mae hyn yn golygu y gallwch ddefnyddio offer iechyd a gofal digidol heb boeni am eich gwybodaeth bersonol.

Mwy o gynhwysiant digidol: Rydym wedi gweithio gydag eraill ac mae ein hymgyrch i ddeall a chwalu rhwystrau digidol yn golygu y bydd mwy o bobl yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol ar-lein. Byddwn wedi dathlu straeon ac wedi tynnu sylw at raglenni ac adnoddau a wnaeth wahaniaeth.

Gwell cydweithio a dealltwriaeth o strategaethau digidol: Mae ein gwaith ar y cyd, yn enwedig gyda chyrff fel y CDPS, ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi arwain at strategaeth ddigidol sy’n ein helpu i wneud gwelliannau gwirioneddol i chi a’ch profiadau iechyd a gofal.

Rydyn ni eisiau bod yn sefydliad dibynadwy sy’n cael ei werthfawrogi gan bawb – y bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu a’r partneriaid rydyn ni’n gweithio gyda nhw yng Nghymru a thu hwnt. Rydym am wneud yn siŵr bod pob llais yn cyfrif, fel hyrwyddwr ymgysylltu â phobl yn gyntaf yng Nghymru.

Rydym am fod yn sefydliad sy’n cael ei redeg yn dda ac sy’n seiliedig ar werthoedd sydd nid yn unig yn eiriol dros newid ond sy’n ei ymgorffori, gan osod yr esiampl ar gyfer cynhwysiant mewn iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Rydyn ni eisiau i Llais fod yn le gwych i weithio, sy’n rhoi cynnig ar bethau newydd ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ffyrdd newydd o weithio.

Er mwyn ein helpu i wneud hyn, yn 2024-2025 byddwn yn:

Dod i mewn â dwy system TG newydd i mewn, system Rheoli Perthynas â Chwsmeriaid (CRM) a SharePoint - i wella ein mannau cadw cofnodion a mannau ar-lein i’n helpu i weithio’n well a chael mwy o effaith. Byddwn hefyd yn creu Strategaeth Data Digidol a TG i helpu i’n harwain yn y blynyddoedd i ddod.

Creu ein strategaeth lleoliadau a’n nod di-garbon net
Adolygu ein prif bolisïau a gweithdrefnau a diweddaru’r ffordd rydym yn gwneud pethau, gan anelu at wneud ein sefydliad hyd yn oed yn gryfach ac yn ddoethach o ran sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau i wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Cyflwyno strategaeth cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus newydd a fydd yn egluro sut rydym yn siarad am yr hyn rydym yn ei wneud, yn defnyddio offer newydd ac yn lansio ymgyrchoedd effeithiol i rannu ein stori ymhell ac agos. Byddwn yn dweud wrthych am ein heffaith yn amlach, rydym am ddangos sut rydym yn gwneud gwahaniaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyflwyno a gwreiddio ein gwerthoedd, ymddygiadau a diwylliant trwy bethau fel diweddaru’r ffyrdd rydym yn mesur ein perfformiad, y ffordd rydym yn recriwtio pobl, sut mae ein pobl yn cael dweud eu dweud am ddyfodol Llais a sut rydym yn rhoi adborth i’n gilydd.

Cyflwyno ein strategaeth wirfoddoli, gan wneud gwirfoddoli gyda ni hyd yn oed yn fwy gwerth chweil ac yn fwy dylanwadol. Creu mwy o gyfleoedd i wirfoddoli na’r llynedd a mwy o gyfleoedd i ddatblygu.

Cymryd camau i wneud Llais yn lle croesawgar i bob cymuned yr ydym yn ei gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys bwrw ymlaen â’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol, ein camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol, y LGBTQ+ a chynlluniau gweithredu Pobl Anabl. Byddwn yn mesur pa mor dda rydym yn gwneud ac yn parhau i wella.

Gwneud y ffordd rydym yn recriwtio pobl yn well fel bod pawb sy’n gysylltiedig yn dweud wrthym fod y broses recriwtio yn fwy effeithiol ac yn haws i’w defnyddio.

Cyflwyno ein rhaglenni dysgu a datblygu ar gyfer ein pobl a chael 25% yn fwy o bobl wedi cwblhau dysgu a datblygu na’r llynedd.

Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru ein gwefan i’w gwneud yn haws i’w defnyddio a’i deall.

Byddwn yn ymgysylltu’n fwy a gwell drwy greu fframwaith ymgysylltu newydd a chyflwyno a defnyddio offer newydd. Byddwn yn cymryd rhan mewn mwy o ddigwyddiadau cenedlaethol, yn ymateb i faterion pwysig ac yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed mewn penderfyniadau mawr drwy roi cyhoeddusrwydd i fwy o alwadau am dystiolaeth ac ymatebion i ymgynghoriadau ac ymateb iddynt.

Sut olwg allai fod ar lwyddiant erbyn mis Mawrth 2025:

Rydyn ni wedi diweddaru ein holl reolau a ffyrdd pwysig o wneud pethau, gan wneud i Llais redeg yn llyfnach ac yn gryfach. Mae’r gwelliant mawr hwn yn rhywbeth yr ydym yn falch o’i ddangos yn ein hadroddiad blynyddol ac yn rhywbeth y mae ein tîm yn ei deimlo a’i werthfawrogi’n fawr yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Diolch i’n hymgyrch fawr ar gynlluniau fel y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a chamau gweithredu i gefnogi LGBTQ +, pobl anabl, a brwydro yn erbyn hiliaeth, mae Llais wedi dod yn fan lle mae lleisiau mwy amrywiol yn cael eu clywed.

Rydym wedi dechrau datblygu diwylliant sy’n byw yn ôl ei werthoedd. Mae llwyddiant i’w weld yn ymgysylltiad uwch ein tîm, boddhad swydd, a’r ddolen adborth cadarnhaol rhwng staff a rheolwyr.

Bydd ein strategaeth cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus newydd, ochr yn ochr â fframwaith ymgysylltu cadarn, wedi cryfhau ein llais a’n heffaith yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd llwyddiant yn golygu bod ein hymgyrchoedd a’n hymrwymiadau wedi arwain at newidiadau gwirioneddol mewn polisïau ac arferion, mae ein dylanwad i’w weld yn glir mewn gwelliannau ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae integreiddio systemau TG newydd yn llwyddiannus, yn unol â’n Strategaeth Data Digidol a TG, wedi ein galluogi i weithio’n fwy effeithlon a chael mwy o effaith. Mae hyn, ynghyd â’n cynllunio craff ar ble rydym yn gweithio a’n nodau i fod yn wyrddach, wedi ein gwneud yn fwy effeithlon ac effeithiol.

Bydd cyflwyno ein rhaglenni datblygu a gwella ein trefniadau recriwtio wedi arwain at dîm mwy medrus, bodlon, wedi’i recriwtio’n fwy effeithiol.

Rydym wedi agor mwy o gyfleoedd i wirfoddolwyr ymuno â ni, gan ddod â syniadau ac egni newydd i Llais. Mae ein strategaeth wirfoddoli yn llwyddiant ysgubol, gan wneud ein cenhadaeth hyd yn oed yn gryfach gyda chymorth y cyfranwyr anhygoel hyn.