
Dewch i weithio i ni
Swyddi Gwag Presennol
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu proses recriwtio ddienw. Ni fydd y panel recriwtio yn gweld gwybodaeth bersonol fel enw a chyfeiriad ymgeisydd yn ystod y broses ddidoli. Mae’r polisi hwn yn unol â’n hymrwymiad i ddileu rhagfarn, ac i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Manylion swydd wag
Teitl Swydd Wag
Penodi Aelod Anweithredol o'r Bwrdd i Gorff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru: Llais Cymru
Dyddiad cau
21/04/2025, 16:00
Lefel fetio
Sylfaenol
Sawl swydd
1
Math o swydd
Aelod
Enw'r corff
Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru: Llais Cymru
Lleoliad
Mae'r Bwrdd yn cyfarfod wyneb yn wyneb ac yn rhithwir. Cynhelir y cyfarfodydd ar draws lleoliadau yng Nghymru. Mae gan Llais swyddfeydd ar draws Cymru. Efallai y bydd rhywfaint o ofyniad i fynd i swyddfeydd Llais, ond yn anaml iawn y bydd hyn yn digwydd.
Cydnabyddiaeth Ariannol
Y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y rôl yw £198 y diwrnod a gall aelodau hawlio costau teithio a chynhaliaeth yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Gofynion y Gymraeg
Gofynion y Gymraeg
3 - Er nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddai eu cael yn gaffaeliad. Mae’r rôl hon yn rôl lle mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol.
Deall drwy ddarllen
1 - Gallu darllen ambell air ac ymadrodd syml a’u deall
Siarad a chael eu deall
3 - Gallu sgwrsio mewn rhai sgyrsiau sy’n ymwneud â gwaith
Deall drwy wrando
3 - Gallu deall sgyrsiau arferol sy’n ymwneud â gwaith
Ysgrifennu a chael eu deall
1 - Gallu ysgrifennu negeseuon syml am bynciau bob dydd
Dogfen Saesneg
Information Pack for Non Executive Member Llais.pdf – 263KB Agor mewn ffenestr newydd
Dogfen Gymraeg
Pecyn Gwybodaeth i ymgeiswyr Aelod Anweithredol - Llais Cymru.pdf – 295KB Agor mewn ffenestr newydd
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Mae Llywodraeth Cymru yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sydd ag amhariad, cyflwr iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain os yw'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd.
Model Cymdeithasol o Anabledd
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas sy’n analluogi pobl sydd âg amhariadau, neu gyflyrau iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau yn y broses recriwtio fel y gall pob aelod o staff (neu ddarpar aelodau staff) berfformio o’u gorau.
Gellir gwneud addasiadau recriwtio ar unrhyw adeg yn y broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Cysylltwch â [email protected] i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Sut mae Gwneud Cais
Rhaid i bob cais am y swydd hon gael ei wneud gan ddefnyddio ein system ymgeisio ar-lein.
Oni nodir fel arall yn y 'wybodaeth arall sy'n gysylltiedig â swydd wag ar gyfer hysbyseb', ni all Llywodraeth Cymru gynnig nawdd Fisa. Mae gan Lywodraeth Cymru drwydded nawdd Fisa, ond dim ond ar gyfer rhai rolau y gellir ei defnyddio ac nid yw'r ymgyrch hon yn gymwys.
Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiaeth o brofiadau bywyd a phroffesiynol. Rydym wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad sy'n gynyddol amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Mae nifer o rwydweithiau Amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys y Rhwydwaith Ymwybyddiaeth a Chefnogi Anabledd (YChA); Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig; Materion Meddwl (Iechyd meddwl a lles); PRISM (LGBTI+), Menywod Ynghyd and Rhwydwaith Niwrowahaniaeth.
Os oes gennych amhariad sy’n eich atal rhag ymgeisio ar-lein, anfonwch e-bost at ein tîm recriwtio. Gallwch:
- ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat arall
- gofyn am addasiad recriwtio i’ch helpu i gyflwyno eich cais
Defnyddiwch y botwm 'Gwneud Cais' i gyflwyno eich cais. Mewngofnodwch neu cofrestrwch i greu cyfrif i wneud cais. Mae cofrestru’n cymryd ychydig funudau a bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch chi.
Dylech wirio eich Canolfan Cais yn reolaidd i gael diweddariadau eich cais. Hefyd, gwiriwch eich ffolder sbam/sothach rhag ofn i unrhyw gyfathrebu ynglyn â’ch cais a/neu eich manylion asesu ddod o hyd i'w ffordd yno.
Ar ôl i chi gofrestru i gael cyfrif a mewngofnodi, byddwch yn cael eich arwain at y ffurflen gais ar-lein. Rhaid i chi lenwi hon a’i chyflwyno cyn y terfyn amser ar y dyddiad cau. Ni fyddwn yn ystyried ffurflen gais anghyflawn.
Os hoffech wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen Newid Iaith ar y dudalen hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai a gyflwynir yn Saesneg.
I gael gwybodaeth am Broffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil, cliciwch yma.
Ar gyfer cynlluniau recriwtio TS i G6: Wrth gyflwyno’ch tystiolaeth y byddai'n ddefnyddiol i chi ystyried disgwyliadau'r radd fel y nodir yn y Disgrifiad Gradd, yn ogystal â'r prif gyfrifoldebau sy'n hanfodol ar gyfer y rôl.