Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Digwyddiadau ymgysylltu Cwm Taf Morgannwg ar gyfer rhieni a/neu ofalwyr plant niwroamrywiol

Mae angen barn a meddyliau rieni a gofalwyr plant Niwroamrywiol (2-17 oed) a'r rhai ag anawsterau iechyd meddwl/anghenion dysgu ychwanegol.

Mewn partneriaeth â’r Hwb Cymorth Ymddygiad, sefydliad elusennol cofrestredig a arweinir gan rieni, sy’n darparu ymyrraeth gynnar a chymorth hirdymor i rieni sy’n ofalwyr/ mae Llais Cwm Taf Morgannwg, y corff cenedlaethol, annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl Cymru, rydym yn cynnal cyfnod o ymgysylltu ar gyfer rhieni/gofalwyr.

Gyda'n gilydd rydym yn gofyn i chi rannu eich profiadau (da neu ddrwg) o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n cefnogi plant a phobl ifanc Niwroamrywiol, a'r rhai ag anawsterau iechyd meddwl / anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r cyfnod ymgysylltu yn cychwyn o ddydd Iau 17 Hydref 2024 tan ddydd Mawrth 31 Rhagfyr 2024.

Mae yna nifer o ffyrdd i rannu eich adborth:

Rhowch adborth i ni trwy lenwi'r ffurflen ar-lein (dienw)

 Cwblhewch yr arolwg yma

Mae’r Hyb Cefnogi Ymddygiad a Llais Cwm Taf Morgannwg wedi trefnu nifer o sesiynau galw heibio ymgysylltu. Bydd hwn yn gyfle i drafod yr arolwg a rhannu eich barn. Cefnogaeth i gwblhau'r arolwg neu i rannu eu barn mewn ffordd fwy llai ffurfiol. Gwahoddir Rhieni/Gofalwyr i ddod ar y dyddiadau canlynol:

Lleoliadau mewn person (a gynhelir gan Hyb Cymorth Ymddygiad)

7fed Tachwedd, 12.30-1.30yh -  Canolfan cymorth ymddygiad Pontypridd, 33 Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2BN.

14eg Tachwedd, 12.30 - 1.30yh - Cynon Linc, Stryd Seymour, Aberdâr. CF44 7BD

21 Tachwedd, 12.30-1.30yh - canolfan cymorth ymddygiad Pontypridd, 33 Heol Geliwastad, Pontypridd, CF37 2BN.

28 Tachwedd, 12.30-1.30yh - Galw Heibio Cymunedol Llanharan - 23A Heol Pen-y-bont ar Ogwr, Llanharan, Pont-y-clun, CF72 9RD

Lleoliadau mewn person (a gynhelir gan Llais Cwm Taf Morgannwg)

I'w gadarnhau

Ar-lein trwy Zoom. Os hoffech ymuno ag unrhyw un o'r sesiynau ar-lein hyn, cadarnhewch eich presenoldeb trwy glicio ar y dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i'r tudalennau Eventbrite. (Cynhelir gan Hyb Cefnogi Ymddygiad)

11.00yb -12yh, Dydd Mawrth Tachwedd 12fed

5.30yh - 6.30yh, Dydd Mawrth Tachwedd 26ain

(Hosted by Llais Cwm Taf Morgannwg)

5.30yh to 6.30yh, Dydd Mercher Tachwedd 27ain

Byddwn yn rhannu’r canfyddiadau â’r GIG, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru ac eraill i roi gwybod iddynt beth yw barn rhieni a/neu ofalwyr am y gwasanaethau hyn. Bydd y wybodaeth hon yn caniatáu iddynt weld beth mae pobl yn ei feddwl sy'n gweithio'n dda a chymryd camau i wella gwasanaethau lle bo angen - cyn gynted â phosibl.

Gallai eich adborth helpu i wneud gwahaniaeth!

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw gan Llais yn unig a'i defnyddio yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd.

Sylwch os oes angen addasiadau neu ofynion iaith penodol arnoch, gallwn wneud trefniadau ar gyfer y digwyddiadau a gynhelir gan Llais.

Cysylltwch â ni o leiaf 7 diwrnod ymlaen llaw trwy e-bost [email protected]

neu Ffon 01443 405830