Dr Rajan Madhok
Wedi byw yng Ngogledd Cymru ers 2018, mae gen i hoffter o’r diwylliant Cymreig a dechreuais ddysgu Cymraeg yn ddiweddar.
Cyn ymddeol roeddwn yn feddyg iechyd y cyhoedd, yn gweithio mewn swyddi rheoli meddygol uwch yn y GIG yn Lloegr.
Yn ystod fy ngyrfa weithgar, fy mhrif ddiddordeb oedd gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf yn enwedig diogelwch cleifion a gweithwyr a meddygaeth academaidd.
Ymysg llawer o swyddi eraill yn y gorffennol roeddwn yn Gadeirydd Cymdeithas Brydeinig y Meddygon o Darddiad Indiaidd ac yn aelod o Gyngor y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Rwyf ar hyn o bryd yn ymddiriedolwr i rai sefydliadau gwirfoddol, ac yn gyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Cilgwri.
Rwy’n angerddol am ymgysylltu â’r cyhoedd, datblygu arweinyddiaeth a hyrwyddo arfer myfyriol. Rwy’n falch o fod yn rhan o’r gwaith pwysig y mae Llais yn mynd i’w gyflawni ar gyfer pobl Cymru.