Dweud eich dweud
Ydych chi'n defnyddio gwasanaethau'r GIG neu ofal cymdeithasol - er enghraifft, meddygon teulu, ysbytai, fferyllfeydd, deintyddion, yn derbyn gofal yn y cartref neu'n byw mewn cartref gofal?
Yna gallwch chi helpu i'w wneud yn well i bawb trwy ddweud wrthym am eich profiadau - da a drwg.
Rydym eisiau clywed gan bobl yn holl gymunedau amrywiol Cymru – yn enwedig y rhai nad yw eu lleisiau bob amser yn cael eu clywed.
Bydd eich straeon bywyd go iawn a’ch adborth am ddefnyddio gwasanaethau’r GIG a Gofal Cymdeithasol yn helpu i greu darlun o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, fel y gallwn helpu llunwyr polisïau a gweithredwyr i wella gwasanaethau.
Ac, oherwydd ein bod yn gorff statudol, mae'n rhaid i holl sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector sy'n darparu gofal wrando arnom.
Mae llawer o ffyrdd cyflym a hawdd i ddweud eich dweud:
- gallwch lenwi ein ffurflen adborth cyffredinol (sy’n cymryd tua phum munud)
- neu edrychwch ar ein harolygon i weld a oes gennych unrhyw beth i'w ddweud am rywbeth penodol y gallem fod yn holi amdano.
Os ydych angen cyngor, help gyda chwyn neu os ydych yn barod i adrodd eich stori, cysylltwch â ni.