Grace Quantock
Yn ystod fy ngyrfa rwyf wedi gweithio ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a hawliau dynol.
Rwy'n ymchwilydd ac yn gynghorydd seicotherapiwtig mewn practis preifat gydag MA mewn seicotherapi ac ymarfer cwnsela a ffocws mewn gofal iechyd wedi'i gyfryngu'n ddigidol.
Mae fy niddordeb ymchwil yn cynnwys cyflwyno digidol, lles cleifion ac iechyd meddwl.
Rwyf wedi ymgymryd â dwy gymrodoriaeth a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i ddarparu gwasanaethau digidol ac rwyf wedi gwneud ymchwil ar gyflenwi data wedi’i lywio gan drawma.
Rwy’n angerddol am gydraddoldeb a chynhwysiant ac yn 2019 cyfrannais at Adolygiad Holmes o gynhwysiant mewn bywyd cyhoeddus.
Ymhlith swyddi a rolau eraill, rwy’n aelod anweithredol o ymddiriedolaeth GIG Dyffryn Gwy a Gofal Cymdeithasol Cymru. Rwyf hefyd yn Ddarlithydd Gwadd yn y Gyfadran Addysg a Gwyddorau Bywyd ar yr MA Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed ar gyfer Prifysgol De Cymru.
Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Ddirprwy Gadeirydd Bwrdd Llais ac yn edrych ymlaen at ddefnyddio fy sgiliau a’m profiad i helpu i lunio gwaith Llais.