Helpwch ni i wella gwasanaethau Gofal Brys Yr Un Dydd
Mae Llais yn gorff annibynnol gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydyn ni eisiau clywed am eich profiad o gael mynediad at ofal brys yr un dydd i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd ddim.
Byddwn yn defnyddio’r hyn a ddywedwch wrthym i roi adborth i’r Bwrdd Iechyd a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i lunio a gwella gwasanaethau gofal brys yr un dydd i bawb.
Mae'r ymchwil hwn yn ddienw, felly os cwblhewch yr arolwg hwn, ni fydd neb yn gwybod.
Fodd bynnag, os hoffech siarad â ni yn fanylach am ofal brys yr un dydd trwy gymryd rhan mewn grŵp ffocws ar-lein, mae lle ar ddiwedd yr arolwg i adael manylion cyswllt os oes gennych ddiddordeb.
Llenwch yr arolwg os oeddech chi neu rywun annwyl yn defnyddio'r gwasanaethau brys rhwng 30 Medi a 10 Hydref: