Bwrdd CICau - Byw gyda’r coronafeirws: gwasanaethau iechyd a gofal yn ystod y gaeaf
Mewn ychydig fisoedd byr, mae’r pandemig coronafeirws wedi newid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio. Mae’n bosib iawn y bydd rhai o’r newidiadau hyn yn aros gyda ni am amser hir.
Mae’r sialensiau rydym yn eu hwynebu gyda’n gilydd wedi atgoffa pob un ohonom yng Nghymru mor hanfodol yw ein rhwydweithiau cymunedol lleol, ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a’n gwasanaethau gwirfoddol a’n gwasanaethau cyhoeddus ehangach.
Gyda chymaint yn newid, ac mor gyflym, mae’n bwysig bod gwasanaethau iechyd a gofal yn gwybod ac yn deall yr hyn sy’n gweithio’n dda, a’r hyn allai fod angen ei wneud yn wahanol yn y dyfodol, os ydynt am ddiwallu anghenion pobl sy’n byw yng Nghymru ac ymateb i’r hyn sy’n bwysig iddynt.