Canllawiau statudol ar sylwadau a gyflwynir gan gorff llais y dinesydd 2023
Mae hwn yn ganllaw statudol ar sut y gall cyrff y GIG ac awdurdodau lleol ymdrin â sylwadau a wneir iddynt gan Llais.
Byddwn yn gwrando ar yr hyn y mae pobl wedi’i ddweud wrthym ac yna’n cynrychioli’r safbwyntiau hynny, neu’n cyflwyno sylwadau ar faterion sydd wedi dod i’w sylw mewn unrhyw ffordd arall, i’r rhai sy’n gyfrifol am ddarparu a threfnu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Dylai cynrychiolaethau helpu i sicrhau bod llais dinasyddion a defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei glywed ochr yn ochr â llais gweithwyr proffesiynol wrth wneud penderfyniadau am ddatblygu, gwella, newid neu derfynu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.