CIC Gogledd Cymru - Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu
Mae gan CIC Gogledd Cymru bryderon hirdymor sydd wedi cael cryn gyhoeddusrwydd am ofal iechyd meddwl yng ngogledd Cymru
Beth wnaethom ni
Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CIC Gogledd Cymru).
CIC Gogledd Cymru yw’r corff gwarchod annibynnol i wasanaethau GIG yng ngogledd Cymru ac rydym yn ceisio annog a galluogi aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan weithredol yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar ddylunio, datblygu a chyflawni gofal iechyd i’w teuluoedd a chymunedau lleol.
Mae CIC Gogledd Cymru yn gweithio gyda’r GIG lleol ac ynghyd â chyrff arolygu yn rheoleiddio, i ddarparu’r ddolen hanfodol rhwng y rhai sy’n cynllunio ac yn cyflawni’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng ngogledd Cymru, y rhai sy’n arolygu ac yn ei reoli, a’r rhai sy’n ei ddefnyddio.
Mae CIC Gogledd Cymru yn cynnal deialog barhaus gyda’r cyhoedd drwy ystod eang o rwydweithiau cymunedol, cyswllt uniongyrchol gyda chleifion, teuluoedd a gofalwyr drwy ein gwasanaeth ymholiadau, gwasanaeth eiriolaeth cwynion, gweithgareddau ymweld ac ymgysylltu ehangach a thrwy arolygon gyda’r cyhoedd a chleifion.
Mae CIC Gogledd Cymru yn cynrychioli “llais y claf a’r cyhoedd” yn yr ardal ddaearyddol ble mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn weithredol.
Yr hyn a glywsom
“Defnyddiais lawer ar y gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig, mae wedi bod yn hunllef. Dwi heb gael y profiad gorau ac roedd yn rhaid gwneud popeth dros y ffôn mewn argyfwng. Gofynnais iddynt fy ffonio yn ôl pan oedddwn mewn argyfwng a chefais alwad yn ôl bythefnos yn ddiweddarach. Doedd dim pwynt ffonio yn ôl bythefnos wedyn, erbyn hynny roeddwn wedi cael trefn ar bethau gyda chymorth ffrindiau”
“Cefais driniaeth yn Uned Ablett ychydig o flynyddoedd yn ôl. Doedd hynny ddim yn brofiad da o gwbl. Roedd yr awyrgylch yn oer ac yn anghyfeillgar a doedd yna ddim preifatrwydd, roedd yn teimlo yn annifyr”
Dysgu o'r hyn a glywsom
Gofynnwyd I’r rhai oedd yn cymryd rhan ar ddechrau pob sesiwn i ddychmygu fod ganddynt hudlath fyddai yn gadael iddynt newid “Un Peth Syml” am wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Ar y diwedd gofynnwyd iddynt roi gwybod i ni beth oedd hynny. Roedd llawer o’r atebion yn ymwneud â charedigrwydd, parch ac empathi. Roedd llawer hefyd eisiau cydlyniant rhwng gweithwyr proffesiynol GIG a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.