Cytundeb Comisiwn Bevan a Llais
Pwrpas y cytundeb hwn yw gosod fframwaith i gefnogi perthynas waith newydd rhwng
Comisiwn Bevan a Llais Llais1 (y sefydliadau).
Mae’r berthynas waith hon wedi’i sefydlu i alluogi a chyflymu ymgysylltiad y cyhoedd â gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Mae'n darparu fframwaith i wella ymgysylltiad, datblygu nodau ac amcanion ar y cyd, parch a chyd-ddealltwriaeth a bydd yn cynorthwyo'r sefydliadau i gyflawni eu hamcanion.
Mae llwyddiant y Cytundeb hwn yn dibynnu ar ymrwymiad ar y cyd y sefydliadau. Bydd y Cytundeb yn adeiladu ar y berthynas waith bresennol, gan alluogi'r sefydliadau ymhellach i rannu gwybodaeth, sgiliau ac adnoddau.
Mae’r Cytundeb hwn yn ddatganiad clir o ymrwymiad y sefydliadau i gydweithio, gan
ddefnyddio cryfderau pob sefydliad, gan greu synergedd i helpu i lywio a llunio atebion
sy’n canolbwyntio ar bobl ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r Cytundeb hwn yn cydnabod natur ddeinamig gwasanaethau iechyd a gofal
cymdeithasol a’r heriau annisgwyl y maent yn eu hwynebu. Mae'n cydnabod yr angen i
addasu a bod yn hyblyg i amgylchiadau newidiol wrth iddynt ddatblygu.