Datganiad safbwynt Llais: Gweithredu ar fyrder ar gwasanaethau gofal brys yng Nghymru
Mae Llais yn bodoli i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl a chymunedau ledled Cymru yn cael eu clywed ac yn cael eu gweithredu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Fel y nodir yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, mae gennym ddyletswydd statudol i adlewyrchu barn a chynrychioli buddiannau pobl yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Drwy ymgysylltu â dros 700 o bobl, gan gynnwys drwy 42 o ymweliadau ag ysbytai, unedau mân anafiadau ac asesu meddygol, mae pobl a chymunedau wedi dweud wrthym fod gofal brys yng Nghymru yn methu â chyrraedd y safonau y maent yn eu disgwyl ac yn eu haeddu.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf wrth i effaith y gaeaf gydio, bu diddordeb cyhoeddus eang yn yr heriau sy’n wynebu adrannau brys GIG Cymru, gyda chyrff fel Coleg Brenhinol y Nyrsys yn mynegi pryderon difrifol am yr effaith y mae gwasanaethau dan bwysau yn ei chael ar ofal pobl.
