Dweud eich dweud ar Llais
Mae Llais yn gorff statudol annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol - yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud.
Fel rhan o'n cynllun 100 diwrnod a lansiwyd yn ddiweddar, rydym am gael sgwrs genedlaethol gyda phobl ym mhob rhan o Gymru, i weithio gyda ni i'n helpu i ddatblygu ein gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau strategol.
Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan yn y gwaith parhaus hwn. Rydym am i chi rannu eich barn ar yr hyn rydych chi'n credu sydd angen digwydd, a sut y gallwch chi weithio gyda ni, i sicrhau bod ein gweithgareddau'n golygu bod eich barn a'ch profiadau yn cael eu defnyddio gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell.
Bydd yr hyn a ddywedwch wrthym yn ein helpu i nodi'r cyfeiriad a'r blaenoriaethau ar gyfer gwaith Llais yn y dyfodol yn y blynyddoedd i ddod a helpu i sicrhau ei fod yn gweithio i bawb, ym mhob rhan o Gymru.
Diolch yn fawr am gymryd yr amser i gymryd rhan