Llais Powys - Adroddiad Yr hyn yr ydym wedi i glywed Ystradgynlais Medi 2023
Ym Mhowys, mae Llais yn gweithio ar sail ardal leol i ganfod barn pobl am y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y maent yn eu derbyn.
Yn ystod mis Medi, roeddem yn gweithio yn ardal Ystradgynlais. Buom yn chwilio am ffyrdd o ymgysylltu â phobl o bob oed a chyda gwahanol ddiddordebau ac i wrando ar eu barn. Buom yn ymgysylltu â thua 200 o bobl yn ystod y mis ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a roddodd eu barn a’u profiadau inni ynglŷn â derbyn gwasanaethau iechyd a gofal.
Yn ystod y mis, cawsom sylwadau a oedd yn adlewyrchu ystod o brofiadau a safbwyntiau. Rhannodd rhai pobl brofiadau cadarnhaol, tra dywedodd eraill wrthym am yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau.
Rydym wedi rhannu ein canfyddiadau allweddol gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys. Mae ein hadroddiad yn crynhoi'r hyn a glywsom a'r ymatebion a gawsom gan y Cyngor Sir a'r Bwrdd Iechyd.