Papurau Cyfarafod Bwrdd Llais 26.07.2023
Mae bod yn gynhwysol, yn ddibynadwy, ac yn dryloyw yn bwysig i ni.
Fel sefydliad newydd rydym am geisio gwneud pethau ychydig yn wahanol, ac mewn ffordd sy'n gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau. Felly, rydym am weithio gyda chi i ddarganfod y ffordd orau o'ch cynnwys chi yn ein gweithgareddau mewn ffordd sy'n gynhwysol. Mae hyn yn cynnwys ein cyfarfodydd Bwrdd.
Gwyddom nad rhannu gwybodaeth drwy bapurau ffurfiol y Bwrdd yw’r ffordd fwyaf cynhwysol o rannu gwybodaeth am y pethau y mae ein Bwrdd yn eu gwneud a’r penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud. Felly, tra inni glywed gennych am y ffyrdd gorau o wneud hyn, a chan ein bod yn dal i ymgartrefu yn ein sefydliad newydd, gofynasom pe baech am gael papurau’r Bwrdd, y gallech gysylltu â ni, a byddem yn eu hanfon atoch.
Rydym wedi clywed ei bod yn bwysig i chi ein bod yn sicrhau bod ein papurau Bwrdd ar gael yn haws ar ein gwefan, yn hytrach nag ar gais. Rydym bellach wedi gwneud hyn.
Yn y dyfodol, bydd diweddariad ein Cadeirydd a diweddariadau ein Prif Weithredwr hefyd yn ysgrifenedig. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am beth y buom yn siarad ac yn penderfynu yn ein cyfarfodydd Bwrdd cyn gynted â phosibl ar ôl pob cyfarfod.
Gan ein bod yn sefydliad newydd, ac wrth i ni weithio gyda chi i feddwl am y ffordd orau o wneud pethau, efallai y byddwn yn cael pethau’n anghywir. Mae’n ddrwg gennym fod ein penderfyniad i beidio â chyhoeddi papurau ein Bwrdd wedi achosi pryder. Byddwn yn parhau i wrando ar yr hyn a ddywedwch wrthym ac yn gweithredu o ganlyniad.
Rydym am glywed eich syniadau a'ch awgrymiadau am y ffyrdd mwyaf hygyrch i rannu'r hyn y mae'r Bwrdd yn ei wneud yn y dyfodol. Rydym eisiau clywed beth ydych chi’n meddwl yw’r ffyrdd gorau o gynnal ein cyfarfodydd Bwrdd, gan gynnwys sut y gallwn ddefnyddio digidol, TG a fideo i helpu pobl i ddod i wybod am a chymryd rhan, hyd yn oed os na allwch fod yn bresennol yn bersonol.
Fel arfer byddwn yn gwneud ein papurau ar gael ar y wefan yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd ond mae rhai o’r papurau yn dal i gael eu cyfieithu gan nad oeddem yn bwriadu eu rhoi ar y wefan yn wreiddiol. Cyn gynted ag y bydd y fersiynau Cymraeg ar gael, byddwn yn eu rhoi ar y wefan.