Strategaeth Gwirfoddoli Llais
Nod y strategaeth wirfoddoli arfaethedig yw ail-ddychmygu gwirfoddoli yn Llais Cymru, gan ei wneud yn fwy cynhwysol, yn fwy dylanwadol, ac yn cyd-fynd â’n nodau sefydliadol. Drwy ganolbwyntio ar y nodau strategol hyn, gallwn greu rhaglen wirfoddoli sydd nid yn unig o fudd i’n sefydliad ond sydd hefyd yn grymuso ac yn ymgysylltu â’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae’r strategaeth hon yn ddogfen fyw, sy’n agored i’w haddasu a’i gwella wrth i ni barhau i ddysgu a thyfu. Croesewir eich adborth a’ch awgrymiadau wrth i ni gydweithio i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer gwirfoddoli yn Llais Cymru.