Strategaeth Gyfathrebu Llais 2024-27
Fel eich llais ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae sut, pryd a ble rydym yn cyfathrebu ein
gwaith yn bwysig.
Rydym am i’n cyfathrebu fod yn bwrpasol, yn berthnasol, yn amserol, yn addysgiadol, yn
ddiddorol, yn ddymunol ac yn effeithiol. Rydyn ni eisiau ehangu lleisiau pobl Cymru o ran sut
rydyn ni’n cyfathrebu’r hyn rydyn ni’n ei wneud.
Rydym am sicrhau ein bod yn cael ein llywio gan drawma yn ein cyfathrebu. Mae hyn yn golygu y
byddwn yn feddylgar, yn garedig ac yn ddeallus wrth gyfathrebu â phobl, gan gydnabod y gall yr
hyn rydym yn siarad amdano arwain at deimladau a phrofiadau anodd iddynt, a allai effeithio ar
y ffordd y maent yn siarad neu’n ymateb.