Tystiolaeth i'r ymchwiliad i ddyfodol practisiau cyffredinol yng Nghymru
Mae gwasanaethau meddygon teulu yn aml yn cael eu disgrifio fel 'drws ffrynt' y GIG ac maent yn un o'r prif ffyrdd y mae pobl yn cael mynediad at ofal iechyd.
Gwasanaethau meddygon teulu yn aml yw'r lle cyntaf y mae pobl yn mynd pan fydd ganddynt broblem iechyd. Maent yn un o'r gwasanaethau iechyd y mae pobl yn cael y berthynas hiraf â nhw, sy'n eu gwneud yn rhan allweddol o brofiad pobl o'r GIG.
Yn ddiweddar, mae gwasanaethau meddygon teulu Cymru wedi cael eu disgrifio fel rhai mewn argyfwng gydag erthygl melin drafod ddiweddar yn nodi bod 100 o feddygfeydd meddygon teulu wedi cau yn ystod y 12 mlynedd diwethaf a bod 91% o feddygon teulu yn dweud nad ydynt yn gallu cwrdd â'r galw am gleifion.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi clywed gan dros 40,000 o bobl trwy ein gweithgareddau ymgysylltu ac eiriolaeth ac mae gwasanaethau meddygon teulu yn un o bryderon mwyaf pobl.
Roedd bron i hanner y cwynion a drafodwyd gan ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion eleni yn ymwneud â phractis cyffredinol.
Darllenwch ein tystiolaeth yn llawn, isod.
Tystiolaeth i'r ymchwiliad i ddyfodol practisiau cyffredinol yng Nghymru
