Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Ein Fframwaith Ymddygiad
Mae’r fframwaith hwn yn diffinio sut y gallwn oll gyfrannu at lwyddiant ein sefydliad ac at ein llwyddiannau ein hunain fel unigolion ac fel tîm. Bydd mabwysiadu a chroesawu’r ymddygiadau hyn yn helpu i gyflawni ein gweledigaeth o system iechyd a gofal cymdeithasol lle mae pobl yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt mewn ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw.
Cael gofal iechyd brys yn ysbytai Cymru
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Llais wedi bod yn clywed llawer am heriau sydd gan bobl wrth gael mynediad i ofal brys yng Nghymru.
Gan ddechrau ddiwedd mis Medi 2024, dros gyfnod o 5 wythnos, ymwelodd timau Llais ledled Cymru â’r Adrannau Achosion Brys, Unedau Mân Anafiadau ac Unedau Asesu Meddygol yn eu hardaloedd lleol. Cynhaliwyd 42 o ymweliadau gennym.
Gwnaethom hefyd gynnal arolwg ar-lein a chynnal grwpiau ffocws i gasglu profiadau pobl. Yn ystod y cyfnod hwn o 5 wythnos clywsom yn uniongyrchol gan dros 700 o bobl am eu profiad o ofal iechyd brys.