Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Bwrdd CICau - Ymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru
Mae Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned (y Bwrdd) yn falch o ddarparu'r cyflwyniad hwn i ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i Ddeintyddiaeth ar ran y 7 Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) yng Nghymru.
Bwrdd CICau - Ymateb i Gwestiynau Ymgynghori ar Ddyletswydd Ansawdd
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020
Ymateb i ymgynghoriad ar y canllawiau statudol sy'n ofynnol i weithredu'r ddyletswydd ansawdd a disodli'r safonau iechyd a gofal (2015)
Bwrdd CICau - Ymateb i Gwestiynau'r Ymgynghoriad ar y Ddyletswydd Gonestrwydd
Ymateb i Ymgynghoriad ar y Canllawiau a’r Rheoliadau Statudol y bydd eu hangen i weithredu’r Ddyletswydd Gonestrwydd