Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
CIC Hywel Dda - Adroddiad Babanod a Genedigaethau yn Hywel Dda - Rhagfyr 2022
Adroddiad dilynol o’n Hadroddiad Gwasanaethau Mamolaeth 2021
Defnyddiwyd arolwg ar-lein i ofyn yr un cwestiynau i bobl ag yr oeddem wedi'u gofyn yn 2021. Roedd hyn yn bwysig i weld a oedd pobl yn rhoi atebion tebyg i'r rhai yn ein harolwg yn 2021 i ni.
CIC Hywel Dda - Adroddiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant - Rhagfyr 2022
Rydym wedi clywed, drwy ein harolygon cenedlaethol, fod plant a phobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl yn wynebu amseroedd aros hir.
Roeddem am gael gwell dealltwriaeth o sut yr effeithiwyd ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc a dysgu mwy am eu profiadau o gael cymorth drwy gydol y cyfnod hwn.
CIC Hywel Dda - Adroddiad Damweiniau ac Achosion Brys - Hydref 2022
Rydym wedi clywed ar y newyddion bod dros y flwyddyn ddiwethaf Damwain a Adrannau brys dros Gymru wedi gweld pwysau sylweddol gyda phobl yn aros oriau i'w gweld.
CIC Hywel Dda - Adroddiad Ydy'ch plentyn wedi bod i'r ysbyty - Gorffennaf 2022
Mae’r CIC wedi bod yn ymwneud â gwasanaethau plant yn rheolaidd yn blynyddoedd diweddar. Rydym wedi holi pobl am eu profiadau ers i’r Bwrdd Iechyd wneud newidiadau yn 2014.