Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Pwy Ydym Ni
Llais yw’r corff cenedlaethol, annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Ein Rôl Pan fydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Awgrymu Newidiadau i Wasanaethau
Rydym yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed pan fydd y GIG a gofal cymdeithasol eisiau gwneud newidiadau i wasanaethau hefyd. Mae angen iddynt wneud yn siŵr eu bod yn dweud wrthym pan fyddant yn cynllunio newidiadau a rhaid iddynt eich cynnwys chi, y cyhoedd, pan fyddant yn cynllunio, datblygu a
dylunio gwasanaethau.
Blwyddyn o Wrando: Adroddiad Llais Caerdydd a'r Fro 2023 2024
Mae'r adroddiad hwn yn dangos yr hyn y mae rhanbarth Caerdydd a'r Fro wedi'i wneud yn eu blwyddyn gyntaf fel Llais, a'r hyn yr ydym wedi'i glywed gan bobl sy'n byw yn ein hardal.
Cynllun Blynyddol Llais 2024-2025
Mae ein blwyddyn gyntaf wedi bod yn ymwneud â gwrando, dysgu a gweithio gydag eraill i ddeall yr hyn yr ydych ei eisiau a’i angen gan eich gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Fe wnaethom nodi ein cynlluniau ar gyfer ein blwyddyn gyntaf yn ein cynllun 100 diwrnod ac Ein Cynlluniau a Blaenoriaethau (Hydref 2023 - Mawrth 2024). Byddwn yn adrodd yn fanylach ar sut aeth hyn yn ein Hadroddiad Blynyddol yn ddiweddarach eleni. Roedd gennym lawer i’w wneud i sicrhau ein bod yn cael y pethau sylfaenol yn iawn i’n helpu ni i’ch cefnogi chi, i ffurfio partneriaethau newydd, ac i fod yn sefydliad sy’n cael ei redeg yn annibynnol.
Bydd hyn yn parhau i mewn i 2024, a 2025. Rydym hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw hi eich bod yn gweld, ac yn teimlo, ein heffaith. Felly rydym wedi gwneud yn siŵr ein bod wedi meddwl sut i wneud hyn yn fwy ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2024-2025.