Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Pwy Ydym Ni
Llais yw’r corff cenedlaethol, annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Ein Rôl Pan fydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Awgrymu Newidiadau i Wasanaethau
Rydym yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed pan fydd y GIG a gofal cymdeithasol eisiau gwneud newidiadau i wasanaethau hefyd. Mae angen iddynt wneud yn siŵr eu bod yn dweud wrthym pan fyddant yn cynllunio newidiadau a rhaid iddynt eich cynnwys chi, y cyhoedd, pan fyddant yn cynllunio, datblygu a
dylunio gwasanaethau.
Ymgysylltu Llais Gorllewin Cymru - Canolfan Antioch, Llanelli
O 20 Mai 2024, bydd y rhan fwyaf o wasanaethau prawf gwaed ar gyfer pobl sy'n byw yn ardal Llanelli yn cael eu darparu o'r Ganolfan Brechu Dorfol yn Nafen, Llanelli.
Symud gwasanaethau prawf gwaed o Ganolfan Antioch i Ddafen yw ymateb y Bwrdd Iechyd i adborth gan gleifion sydd wedi codi pryderon am y gwasanaeth yn Llanelli. Mae cleifion wedi rhannu adborth o'r blaen ar y diffyg lleoedd parcio, lle i gleifion sy'n aros am eu hapwyntiad, a hyd y rhestr aros.
Symudiad dros dro yw symud i’r Ganolfan Brechu Dorfol yn Nafen, a bydd yr uchelgais hirdymor yn cynnwys symud y gwasanaeth i fod yn rhan o ddatblygiad Pentre Awel yn 2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi trefnu 2 sesiwn galw heibio ac wedi gofyn i ddefnyddwyr gwasanaeth gwblhau arolwg papur a/neu ar-lein erbyn 26 Mehefin 2024.