Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Rhanbarth Llais Gwent - Crynodeb Ymweld Ysbyty Ystrad Fawr – ward Oakdale
Fel rhan o’n cynllun blynyddol, mae Llais Rhanbarth Gwent wedi datgan ein hymrwymiad i gynnal ymweliadau ward wyneb yn wyneb ac i gael adborth gan bobl ar yr adeg y maent yn derbyn gofal.
Ar 2il o Awst 2023, aeth ein hymwelwyr gwirfoddol i ward Oakdale yn Ysbyty Ystrad Fawr yng Nghaerffili. Pwrpas yr ymweliad hwn oedd sefydlu lefel boddhad pobl wrth aros ar y ward hon.
I gwblhau'r ymweliad hwn, ymgysylltodd ein gwirfoddolwyr â phobl ar y ward hon a nodi eu hadborth gan ddefnyddio arolwg.
Mae'r crynodeb hwn yn adrodd yr hyn a ddywedodd pobl wrthym am eu profiad o aros yn Ysbyty Ystrad Fawr, ward Oakdale.
Rhanbarth Llais Gwent – Crynodeb Ymweld - Ysbyty Ystrad Fawr – Ward Anwylfan
Fel rhan o'n cynllun lleol, mae Llais Rhanbarth Gwent wedi ymrwymo i ymgymryd â sawl ymweliad ward wyneb yn wyneb, er mwyn cael adborth gan bobl ar y pwynt eu bod yn derbyn gofal.
Mae'r crynodeb hwn yn adrodd yr hyn a glywsom gan bobl am eu profiadau yn Ward Anwylfan, Ysbyty Ystrad Fawr.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llais 2022-23
Mae’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon wedi’u paratoi yn unol â Chyfarwyddyd Cyfrifon Llywodraeth Cymru a Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FreM) 2022-23. Roedd y Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gyfer 2022/23 yn cynnwys llai o ofynion adrodd a datgelu sy'n adlewyrchu nad oedd Llais yn weithredol yn 2022/23.