Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Cod Ymarfer ar fynediad i safleoedd ac ymgysylltu ag unigolion
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni beth oedd ein barn am ei dogfen “Cod ymarfer ar fynediad i safloedd ac ymgysylltu ag unigolion”. Mae’r ddogfen hon yn dweud sut y dylem gydweithio â’r GIG ac awdurdodau lleol pan fyddwn yn ymweld â safleoedd i siarad â phobl am eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gofynnom am rai newidiadau i'r ddogfen. Meddyliodd Llywodraeth Cymru am yr hyn a ddywedasom, a gwneud rhai newidiadau. Gallwch ddarganfod mwy yn y llythyrau hyn. Gallwch weld y Cod ymarfer ar fynediad i eiddo ac ymgysylltu ag unigolion
Dweud eich dweud ar Llais
Fel rhan o'n cynllun 100 diwrnod a lansiwyd yn ddiweddar, rydym am gael sgwrs genedlaethol gyda phobl ym mhob rhan o Gymru, i weithio gyda ni i'n helpu i ddatblygu ein gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau strategol.
Canllaw Eiriolaeth
Bydd y canllaw hwn yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl os byddwch yn penderfynu gweithio gyda gwasanaeth eiriolaeth Llais er mwyn codi pryder am y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.