Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Adroddiadau

Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.

Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG  a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.

Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.

Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.

Cynhyrchwyd rhai o'r adroddiadau hyn gan Gynghorau Iechyd Cymuned

O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.

Hidlo yn ôl

Loading icon

Dewiswch ddyddiad dechrau a gorffen

151 canlyniad

Rhanbarth Llais Gwent - Crynodeb Ymweld Ysbyty Ystrad Fawr – ward Oakdale

Fel rhan o’n cynllun blynyddol, mae Llais Rhanbarth Gwent wedi datgan ein hymrwymiad i gynnal ymweliadau ward wyneb yn wyneb ac i gael adborth gan bobl ar yr adeg y maent yn derbyn gofal.

Ar 2il o Awst 2023, aeth ein hymwelwyr gwirfoddol i ward Oakdale yn Ysbyty Ystrad Fawr yng Nghaerffili. Pwrpas yr ymweliad hwn oedd sefydlu lefel boddhad pobl wrth aros ar y ward hon.

I gwblhau'r ymweliad hwn, ymgysylltodd ein gwirfoddolwyr â phobl ar y ward hon a nodi eu hadborth gan ddefnyddio arolwg.

Mae'r crynodeb hwn yn adrodd yr hyn a ddywedodd pobl wrthym am eu profiad o aros yn Ysbyty Ystrad Fawr, ward Oakdale.