Adroddiadau
Mae Llais yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol.
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiadau, a sut rydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol yn dod ymlaen. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae ein hadroddiadau yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i glywed a beth yw barn pobl am wasanaethau ledled Cymru.
Byddant yn ymwneud â'r pethau yr ydych wedi dweud wrthym sy'n bwysig i chi.
O 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith Cyngor Iechyd Cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd.
Ein Cynllun a’n Blaenoriaethau Hydref 2023 - Mawrth 2024
Dechreuon ni ein gwaith ar 1 Ebrill 2023. Fe wnaethom ddisodli’r 7 Cyngor Iechyd Cymuned yng Nghymru a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru, a gwnaethom nodi’r pethau yr oedd y Cynghorau Iechyd Cymuned yn gweithio arnynt.
Rydym wedi bod yn parhau i gefnogi pobl a chymunedau drwy ein ymgysylltu,
ymwneud â newidiadau i wasanaethau a’n gwasanaeth eiriolaeth cwynion. Ar yr un pryd, rydym wedi bod yn dysgu sut i wneud pethau mewn ffyrdd a fydd yn cefnogi ein dyletswyddau a’n cyfrifoldebau, fel un corff annibynnol.
Llais Rhanbarth Gwent - Arolwg Gofalwyr - Adroddiad Cryno - Medi 2023
Fel rhan o'n cynllun blynyddol, roedd Llais Rhanbarth Gwent am glywed gan Ofalwyr yn ardal Gwent a'u profiad o gael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'u defnyddio i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Er mwyn gwneud hyn, gwnaethom greu arolwg ar-lein i bobl roi eu hadborth. Gwnaethom anfon ein harolwg at randdeiliaid allanol a chwmnïau gofalu, gwnaethom ei gyhoeddi ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a rhannu copïau ohono mewn digwyddiadau ymgysylltu.
Aeth yr arolwg yn fyw ym mis Mehefin 2023 a daeth i ben ym mis Awst. Cawsom gyfanswm o 29 o ymatebion.
Tystiolaeth Llais i Bwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol Cydraddoldeb y Senedd ar ddata'r GIG
Mae’n bleser gennym gyflwyno’r cyflwyniad hwn i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar gyfer yr ymchwiliad i gyfiawnder data a’r defnydd o ddata personol o fewn GIG Cymru.