Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Adolygiad mamolaeth Bae Abertawe – Ein Safbwynt

NEWYDDION 1 Awst 2024

Yn Llais, rydym yn cynrychioli barn a phrofiadau teuluoedd yr ydym wedi clywed ganddynt am adolygiad mamolaeth Bae Abertawe.

Yn ôl ym mis Rhagfyr 2023, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wrthym eu bod yn mynd i fod yn dechrau adolygiad annibynnol i wasanaethau mamolaeth.  Roedd hyn ar ôl i ni glywed am brofiadau a phroblemau gwael am y gwasanaeth a godwyd hefyd yn adroddiad Arolygiaeth Iechyd Cymru ym mis Medi 2023.  

Nid yw hon wedi bod yn broses hawdd na llyfn ac rydym yn gweithio'n agos gyda theuluoedd a'r Bwrdd Iechyd i symud hyn ymlaen fel y gall gwasanaethau wella i bobl.

Mae oedi o 8 mis wedi bod i'r adolygiad.  Yn y cyfnod hwn, mae'r gadair wreiddiol wedi ymddiswyddo. Cododd rhai teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi pryderon ynghylch Cylch Gorchwyl yr adolygiad, ac roedd angen newid y rhain.  Doedd teuluoedd ddim yn teimlo bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Maen nhw'n meddwl ei bod hi'n cymryd gormod o amser.  

Mae'n amlwg o'r hyn yr ydym yn ei glywed nad yw'r adolygiad yn ei ffurf bresennol yn gweithio i bobl. Nid ydym yn cynnal yr adolygiad, ond mae angen i bethau newid fel y gall teuluoedd fod yn hyderus y bydd unrhyw adolygiad yn eu rhoi yn ganolog.

Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod hyn yn digwydd.  

Fel rhan o'n hymglymiad, rydym wedi gofyn i'r Bwrdd Iechyd ysgrifennu at bawb sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth dros y 2 flynedd ddiwethaf i'w gwahodd i rannu eu profiadau fel rhan o'r adolygiad, ac i nodi'r cymorth emosiynol sydd ar gael i deuluoedd sydd wedi profi profedigaeth a thrawma yn eu gofal mamolaeth.  

Rydym hefyd wedi cytuno i fod yn rhan o unrhyw grŵp profiad claf wrth symud ymlaen.  

Mae 3,200 o fabanod yn cael eu geni bob blwyddyn yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.  Rydym yn gwybod efallai y bydd llawer ohonoch gyda straeon i'w rhannu.

 

Os hoffech ddweud eich dweud ar eich profiadau o wasanaethau mamolaeth, gallwch gysylltu â ni yn ein swyddfa Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe drwy e-bost: 

[email protected]

neu ffoniwch 01639 683490. 

 

Rydym yn eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol.  Siaradwch â ni.  Gadewch i ni sicrhau bod llais pawb yn cael ei gynnwys.  

 

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 1 Awst 2024
Diweddarwyd diwethaf 1 Awst 2024