Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Argyfwng gofal deintyddol yng Nghymru: Mae Llais yn galw am weithredu ar frys i sicrhau mynediad teg i bawb

NEWYDDION 19 Tachwedd 2024

Mae mynediad at ofal deintyddol y GIG yng Nghymru mewn argyfwng. Nid oedd traean o'r bobl y clywsom ganddynt yn gallu dod o hyd i ddeintydd neu roeddent yn sownd ar restrau aros hir. Mae plant, oedolion hŷn, pobl anabl, a theuluoedd incwm isel yn wynebu'r heriau mwyaf yn cael gwasanaethau deintyddol hanfodol. 

Mae Llais, corff llais y dinesydd dros iechyd a gofal cymdeithasol, wedi rhyddhau ei ddatganiad safbwynt ar argyfwng deintyddiaeth Cymru ar ôl clywed gan dros 12,000 o bobl ledled Cymru am eu materion iechyd a gofal cymdeithasol, gyda deintyddiaeth yn dod allan yn agos at y brig yn gyson. 

Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod llai o ddeintyddion y GIG fesul person yn 2023-2024 nag yn y blynyddoedd blaenorol.

  • Nid oedd dros draean o'r bobl y buont yn siarad â nhw am gael gweld gwasanaethau deintyddiaeth wedi'u cofrestru gyda deintydd, neu roeddent ar restr aros.
  • Mae pobl yn teithio ymhellach i gael mynediad at ofal deintyddol y GIG gyda llawer yn cael eu gorfodi i dalu mwy drwy droi at ofal deintyddol preifat.
  • Mae pobl yn teimlo bod ansawdd y gofal sydd ar gael ar y GIG yn waeth na gofal deintyddol preifat.
  • Mae’r sefyllfa bresennol yn anghyfartal gyda’r rhai sydd ar eu colled yn blant, pobl hŷn, pobl feichiog, pobl anabl, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai ar incwm is.

Yr effaith ar bobl:

Clywodd Llais rai sylwadau gofidus gan bobl sy'n cael trafferth derbyn triniaeth ddeintyddol, fel:

“Rwyf bob amser wedi bod yn falch o fy nannedd ond nawr yn defnyddio deunydd llenwi dros dro a brynwyd o'r siop. Mae'n ofidus iawn, iawn. Ac mae wedi effeithio ar fy hyder i siarad â phobl”  

“Rydw i mewn poen llwyr ac yn dal i gael haint ar ôl haint gan fod fy nannedd yn dadfeilio, ond does neb yn fodlon fy helpu oherwydd faint o waith sydd angen ei wneud. Felly bob dydd rwy'n aros gartref mewn poen a chywilydd.”  

Mae Llais am i gamau clir gael eu cymryd mewn rhai meysydd allweddol:

  • Hyrwyddo: gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod am restr aros ddeintyddol newydd y GIG ac yn gallu cofrestru'n hawdd ar ôl iddi gael ei lansio er mwyn helpu i wneud mynediad yn haws.
  • Diweddaru: gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod am yr hyn sy'n cael ei wneud i wneud mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG yn haws ac yn gyflymach, y gwahaniaeth mae'n ei wneud a beth arall sydd wedi'i gynllunio.
  • Darparu: cyngor a gwybodaeth glir i bobl ar sut i ofalu am eu dannedd
  • Ymchwil: Cynnal ymchwil wedi'i thargedu i fynd i'r afael â rhwystrau i grwpiau nas gwasanaethir yn ddigonol o ran cael mynediad at ofal deintyddol.
  • Gweithlu: Hyfforddi a chadw mwy o staff deintyddiaeth y GIG yma yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer plant a'r rhai sydd ag anghenion ychwanegol, er mwyn gwella gofal. 

Dywedodd Prif Weithredwr Llais, Alyson Thomas:

“Mae angen gweithredu mwy brys i fynd i’r afael â’r anawsterau y mae pobl yn parhau i’w hwynebu wrth gael gweld deintydd, boed hynny i’w helpu i gadw eu dannedd yn iach neu i gael triniaeth pan fo problem.  Gwyddom fod gwaith ar y gweill i wneud pethau'n well, ond mae'r cynnydd yn rhy araf.  

Byddwn yn parhau i weithio gyda gwasanaethau iechyd ac eraill fel bod y profiadau a glywsom drwy ein gwaith yn gyrru'r gwelliannau mewn gofal deintyddol y mae pawb sy'n byw yng Nghymru yn eu haeddu.”  

Wrth ymateb i’r canfyddiadau, cydnabu llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru'r materion a godwyd, gan nodi:

"Nid yw mynediad i ddeintyddiaeth y GIG yn y man y rydym ni na'r cyhoedd am iddi fod. Ers mis Medi 2023, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r GIG a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i drafod contract deintyddol newydd i Gymru. Cyn bo hir byddwn yn dechrau ymgysylltu â'r proffesiwn ehangach i ymgynghori ar newidiadau arfaethedig.”

Pwysleisiodd y llefarydd y bydd y contract newydd yn canolbwyntio ar atal, ansawdd a mynediad, gan anelu at wella mynediad y cyhoedd i ddeintyddiaeth y GIG tra hefyd yn gwella amodau gwaith i weithwyr proffesiynol deintyddol. Yn ogystal, mae camau eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â'r heriau hyn, gan gynnwys cyflwyno amrywiad i'r contract presennol sy'n blaenoriaethu atal a gofal yn seiliedig ar anghenion dros archwiliadau arferol o chwe mis. Mae’r newid hon wedi:

Caniatau i dros 384,000 o gleifion newydd gael mynediad at ofal deintyddol arferol y GIG ers Ebrill 2022 a dros 118,000 i dderbyn gofal brys ers Ebrill 2023.
Mewn ymateb i argymhellion ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd 2023, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datblygu Porth Mynediad Deintyddol digidol Cymru gyfan i ddarparu system deg er mwyn i bobl gofrestru diddordeb mewn triniaeth ddeintyddol arferol y GIG.

Disgwylir i'r porth, a dreialwyd ym Mhowys, fod ar gael ledled Cymru erbyn diwedd mis Tachwedd.


Ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau, cysylltwch â: 

Oliver James — 02920 235558 [email protected]               

Emma Porter-Weeks — 07929 083951 [email protected] 

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 19 Tachwedd 2024
Diweddarwyd diwethaf 19 Tachwedd 2024