Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Cael Baban yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

NEWYDDION 10 Medi 2024

Yn Haf 2024, siaradodd tîm Llais Caerdydd a’r Fro â phobl am eu profiadau o gael babi yn yr ardal leol. Daeth rhai themâu allweddol i’r amlwg drwy gydol y prosiect, sydd wedi’u rhannu â’r Bwrdd Iechyd.

Yn Haf 2024, siaradodd tîm rhanbarthol Llais â llawer o bobl oedd â phrofiad o gael babi yng Nghaerdydd a’r Fro, a sut y teimlent y gallai’r Bwrdd Iechyd wella gwasanaethau.

Roedd themâu cyson ym mhrofiadau menywod beichiog a phobl sy'n geni, mamau newydd, a’u darparwyr gofal:

  • Problemau gyda chyfathrebu a rhannu gwybodaeth, a allai o bosibl eithrio rhai cleifion
  • Diffyg parhad gofal yn effeithio'n negyddol ar y profiad geni.
  • Mae mynediad at ofal weithiau'n heriol, gydag arosiadau hir am apwyntiadau a rhai cleifion yn teimlo eu bod ar frys
  • Pwysigrwydd empathi a chefnogaeth emosiynol gan ddarparwyr gofal, er mwyn sicrhau profiad cadarnhaol
  • Roedd diffyg ystafelloedd preifat, cyfleusterau hen ffasiwn, ac anawsterau gyda'r pethau sylfaenol, megis parcio, yn bryderon cyffredin. Roedd y rhain yn aml yn cyfrannu at straen ac anghysur
  • Yr angen am gymorth ychwanegol mewn gofal ôl-enedigol. Byddai hyn yn helpu i osgoi'r angen am arhosiadau estynedig yn yr ysbyty, neu'n helpu pobl i reoli eu gofal eu hunain gartref.

Rhannodd Llais yr adborth hwn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a gofynnodd iddynt edrych ar:

  • Parhad gofal gyda bydwragedd cymunedol
  • Gwell gwybodaeth i'r rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf  
  • Gwybodaeth a ddarperir mewn ffordd sy’n fwy cynhwysol, yn enwedig ar gyfer teuluoedd amrywiol  
  • Cyflwyno clinigau cyn-geni cymunedol Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws y rhanbarth
  • Monitro rheolaeth poen mewn gofal ôl-enedigol  
  • Gwybodaeth well a chliriach mewn gofal ôl-enedigol
  • Rhoi digon o amser i fenywod, pobl sy'n geni a theuluoedd ofyn cwestiynau
Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 10 Medi 2024
Diweddarwyd diwethaf 10 Medi 2024