Codi pryderon, creu newid
Ddydd Mawrth 8 Ebrill 2025, cyhoeddodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus adroddiad budd y cyhoedd ar ôl canfod problemau difrifol gyda gofal Ms A ar ôl llawdriniaeth yn 2019.
Cysylltodd Ms A â Llais am y tro cyntaf dair blynedd yn ôl ar ôl ei llawdriniaeth. Cyflwynwyd hi i un o’n heiriolwyr cwynion hyfforddedig yn ei hardal, sydd wedi ei chefnogi ers hynny – hyd at ei chwyn i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
Dywedodd ein heiriolwr cwynion a gefnogodd Ms A:
“Gwrandewais ar ei phrofiad a gofyn cwestiynau fel fy mod yn gallu creu darlun o'r hyn oedd wedi digwydd. Roedd y rhain yn brofiadau ffres a phoenus i Ms A eu hadrodd. Ysgrifennais y gŵyn a gweithio mewn partneriaeth â Ms A i sicrhau ei bod yn cynrychioli ei phrofiad hi, a phopeth yr oedd am ei ddweud.
Roedd yn daith hir o fynd ar drywydd ymatebion yr ysbytai, i ysgrifennu cais i'r Ombwdsmon pan oedd yr ymatebion hynny'n dal i ysgogi mwy o gwestiynau a materion heb eu datrys. Amlygodd diwydrwydd yr Ombwdsmon yn yr ymchwiliad faterion mwy pellgyrhaeddol a'r gobaith yw y byddant yn ddechrau newid yn y modd y caiff cleifion trawsffiniol yng Ngogledd Cymru eu monitro.
Mae Ms A wedi dweud na fyddai hi wedi gallu mynd drwy’r gŵyn hon oni bai am gefnogaeth Llais. O’r cychwyn, roedd hi eisiau atebion ac i sicrhau nad oedd neb arall yn dioddef fel y gwnaeth, ac rwy’n falch ei bod, trwy ei dyfalbarhad, wedi cyfrannu at ddiogelwch cleifion.”
Os ydych am godi pryder am y gofal a gawsoch, mae ein gwasanaeth eiriolaeth cwynion yma i helpu: Codi pryder am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol | Llais