Cytundeb cydweithredol yn cael ei lansio wrth i Llais arwain Sgwrs Genedlaethol ar wasanaethau’r dyfodol
Mewn ymateb i’r heriau dybryd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, mae Llais a Chomisiwn Bevan yn cymryd camau rhagweithiol tuag at lunio dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Gyda’i gilydd, maent yn cychwyn ar ymrwymiad tair blynedd gyda’r nod o ail-lunio gwasanaethau gyda dull pobl-ganolog.
Mae eu cydweithrediad wedi’i wreiddio mewn egwyddorion a rennir o fod yn barchus, yn onest, ac wedi ymrwymo i gydweithio.
Mynegodd Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais, frwdfrydedd am y bartneriaeth, gan ddweud:
“Mae’r Cytundeb hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddefnyddio ein cryfderau cyfun ac ymgysylltu â chymunedau o bob sector wrth lunio gwasanaethau’r dyfodol. Rydym am weld system iechyd a gofal cymdeithasol ymatebol ac addas i’r diben sy’n diwallu anghenion pob unigolyn am genedlaethau i ddod.”
Dywedodd Medwin Hughes, Cadeirydd Llais:
“Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau sydd â pherthynas ddibynadwy â grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym am sicrhau bod llais pawb yng Nghymru yn cael ei glywed ynghylch eu gofal. Felly, gan ddefnyddio ein rhwydweithiau a rennir gallwn annog mwy o bobl, mewn mwy o leoedd, i ddweud eu dweud.”
Dywedodd Dr Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan:
"Bydd cydweithio i rannu sgiliau, mewnwelediadau ac arbenigedd yn allweddol i'n helpu i ddod o hyd i atebion cynaliadwy i ddiwallu anghenion iechyd a gofal pobl ledled Cymru. Bydd y Cytundeb hwn yn gwneud yn union hyn, drwy adeiladu ar ein gwaith diweddar gyda Llais yn ein 'Sgwrs â'r Cyhoedd' yn cynnwys dros 2000 o bobl am eu barn a'u syniadau. Mae'n nodi cam nesaf ein taith tuag at atebion iechyd a gofal cynhwysol, ymatebol sy'n cael eu harwain gan ddinasyddion i Gymru ac rydym yn edrych ymlaen at symud ymlaen.''
Bydd y Cytundeb yn adeiladu ar y berthynas waith presennol, gan alluogi'r sefydliadau ymhellach i rannu gwybodaeth, sgiliau ac adnoddau.