Darpariaeth gofal iechyd yn Ysgolion Arbennig Cwm Taf Morgannwg
Yn dilyn pryderon a godwyd gyda ni gan aelodau o'r cyhoedd, cynhaliodd ein tîm Cwm Taf Morgannwg rhanbarthol astudiaeth ymchwil rhwng Ebrill a Gorffennaf 2024. Siaradom ag 84 o bobl mewn grwpiau ffocws, arolwg a chyfweliadau manwl.
Yn dilyn pryderon a godwyd gyda ni gan aelodau o’r cyhoedd ynghylch y Fframwaith Nyrsio mewn Ysgolion Arbennig (2018), fe wnaethom gynnal ymchwil rhwng Ebrill a Gorffennaf 2024, gan gwmpasu pob un o’r 7 maes a gefnogir gan yr ysgolion arbennig.
Roedd ein hymchwil yn astudiaeth ansoddol, wedi'i chefnogi gan ACCESS, yr ymgynghoriaeth ymchwil gymdeithasol. Defnyddiodd yr astudiaeth arolwg dienw, cyfweliadau manwl, a grwpiau ffocws i glywed lleisiau rhieni, gofalwyr ac arweinwyr ysgol. Edrychodd yr astudiaeth ar effaith y fframwaith a'i effeithiau ar ofal iechyd a chymorth yn yr ysgolion arbennig.
Crynodeb o'r canfyddiadau
- Mae rhieni, staff ysgol a phlant yn gwerthfawrogi nyrsys ysgol yn fawr.
- Mae plant â lefelau uchel o anghenion cymhleth yn dibynnu ar ddarpariaeth nyrsio i gael mynediad i addysg a mynychu'r ysgol
- Mae Ysgolion Arbennig mewn CTM wedi gweld gostyngiad mewn nyrsio ar y safle ers i'r Fframwaith Nyrsio Ysgol ddod i rym.
- Nid yw’r ddarpariaeth bresennol yn bodloni anghenion disgyblion â lefelau uchel o anghenion cymhleth ac mae rhai disgyblion yn treulio llai o amser yn yr ysgol
- Mae staff addysgu, nad ydynt wedi'u hyfforddi'n feddygol, bellach yn rheoli anghenion nyrsio dyddiol plant, gan gynnwys meddyginiaeth. Mae'r newid hwn yn cymryd amser gwerthfawr i ffwrdd o addysgu.
Camau nesaf
Mae ein tîm rhanbarthol yn datblygu cynrychiolaethau yn seiliedig ar y canfyddiadau a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.