Datganiad i'r Wasg: Ymateb Llais i Bryderon Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru
Yn Llais rydym yn bryderus iawn ynglŷn â’r materion parhaus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a’r effaith ar ddiogelwch cleifion a marwolaethau trasig iawn y gellir eu hosgoi.
Rydym, ers peth amser, wedi codi ein pryderon gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau am y lefelau uchel o ddyfarniadau Atal Marwolaeth yn y Dyfodol sy’n ymwneud â BIPBC ac felly rydym yn croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet a’r her y mae hi wedi’i rhoi i’r Bwrdd Iechyd i wella.
Mae'r materion hyn yn amlygu pwysigrwydd dal gwasanaethau iechyd yn atebol wrth gefnogi eu hymdrechion i wella.
Rydym wedi ymrwymo i geisio barn pobl a chymunedau Cymru, gan eu rhannu â’r byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol, a chael eu clywed a gweithredu arnynt. Mae adborth ac atebolrwydd adeiladol, dilyffethair yn hanfodol ar gyfer darparu iechyd a gofal cymdeithasol diogel ac effeithiol i bawb.
Ers ein galwad diweddaraf am gyfranogiad, rydym am gydnabod bod Prif Weithredwr a Chadeirydd BIPBC wedi gweithredu drwy gynnig cyfarfod â'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt ac sydd wedi ymrwymo i ddysgu a gwella o ddigwyddiadau'r gorffennol. Rydym wedi dechrau cefnogi rhai teuluoedd gyda'r cyfarfodydd hyn ac wedi gofyn i Brif Weithredwr BIPBC gynnig ein cefnogaeth i'r holl deuluoedd yr effeithir arnynt.
Mae'n hanfodol bod BIPBC yn parhau i gynnwys pobl a chymunedau gyda phrofiadau o wasanaethau sydd wedi effeithio cymaint o fywydau yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Felly, rydym wedi gofyn i BIPBC rannu eu cynlluniau gwella gyda ni fel y gallwn helpu i hwyluso pobl a chymunedau i gymryd rhan ystyrlon yn y broses.
Er ein bod yn cefnogi gwaith parhaus y bwrdd iechyd, mae ein rôl fel corff annibynnol, sy’n cynrychioli buddiannau gorau pobl Cymru, yn golygu y byddwn yn parhau i’w dal yn atebol i’w hymrwymiadau.
Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau cymorth i leisio'ch pryderon am wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.