Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Datganiad Llais ar brinder deintyddion yng Nghymru

NEWYDDION 19 Chwefror 2025

Mae adroddiadau diweddar gan ddeintyddion a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yn codi pryderon difrifol am ddyfodol deintyddiaeth y GIG yng Nghymru. 

Mae hyn yn adleisio’r hyn a amlygodd Llais yn ein galwadau am weithredu ym mis Tachwedd.

Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2024, clywsom gan dros 12,000 o bobl, ac un o’r materion a godwyd amlaf oedd yr anhawster a gawsant i gael apwyntiad deintydd GIG.

Rydym wedi clywed gan niferoedd enfawr o bobl nad oes ganddynt ddeintydd GIG neu sy’n sownd ar restrau aros hir. Mae rhai cleifion wedi troi at ofal deintyddol ‘DIY’, gan gynnwys defnyddio deunyddiau llenwi dros dro, oherwydd y diffyg triniaeth sydd ar gael.

"Rwyf bob amser wedi bod yn falch o fy nannedd ond bellach rwy'n defnyddio deunydd llenwi dros dro o’r siop. Mae'n drist iawn, iawn. Ac mae wedi effeithio ar fy hyder i siarad â phobl”        

Mae'r symudiad tuag at ddeintyddiaeth breifat yn gosod prisiau anfforddiadwy ar deuluoedd incwm is, gyda rhai yn nodi nad oes unrhyw bractisau deintyddol GIG ar gael yn eu hardal.

“Mae'n anodd iawn cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG. Mae'r deintyddion yn blaenoriaethu cleifion preifat am reswm. Rhaid unioni hyn. Dylai deintyddiaeth fod ar gael i bawb.” 

“Mae'n rhy ddrud ac mae angen gwella hynny, nid oes gan bobl incwm gwario. Os ydych yn dlawd, nid oes gennych unrhyw gyfle i ofalu am iechyd eich ceg.”

Mae plant, pobl hŷn, unigolion anabl, a theuluoedd incwm isel ymhlith y rhai yr effeithir arnynt fwyaf, gyda thystiolaeth yn dangos bod plant mewn ardaloedd o amddifadedd yn derbyn llawer llai o ofal deintyddol.

“Mae fy mhlant yn 8, 9 a 10 oed ac nid ydynt wedi gweld deintydd yn eu bywydau. Mae angen i ddeintyddion y GIG fod ar gael i bawb sydd ei angen, yn enwedig plant.” 

Ni all hyn barhau.

Gwyddom fod gwaith yn cael ei wneud i wella’r sefyllfa, megis ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiwygio contract deintyddol y GIG a’r rhestr aros ganolog, ond mae’r cynnydd yn parhau i fod yn rhy araf ac nid yw’r cynllun yn glir. Mae pobl wedi bod yn aros ers blynyddoedd, ac mae angen atebion arnom nawr. 

Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys ar y mater hwn, gan gydweithio â’r proffesiwn deintyddol a chleifion i wneud yn siŵr bod contract deintyddol y GIG yn diwallu anghenion pawb.

Rhaid amddiffyn a chryfhau deintyddiaeth y GIG i sicrhau mynediad teg i bawb.

 

Manylion llawn ein datganiad sefyllfa gofal deintyddol yma:

 Argyfwng gofal deintyddol yng Nghymru

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 19 Chwefror 2025
Diweddarwyd diwethaf 19 Chwefror 2025