Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Deddf Cyflog Cyfartal

NEWYDDION 24 Medi 2024

Ym 1970, pasiodd Llywodraeth y DU y Ddeddf Cyflog Cyfartal. Roedd hyn yn atal dynion a merched rhag cael eu trin yn wahanol neu'n annheg o ran cyflog ac amodau gwaith. Erbyn i’r gyfraith hon ddod i rym, roedd menywod wedi bod yn ymgyrchu dros yr hawliau hyn ers dros 90 mlynedd.  

Ar yr un pryd, roedd gweithwyr Du a lleiafrifoedd ethnig yn y DU yn cael trafferth dod o hyd i swyddi, roedd ganddynt lai o sicrwydd swydd, ac yn aml yn gweithio mwy am gyflog is. Arweiniodd gwrth-fewnfudo ac agweddau hiliol at ymosodiadau yn erbyn pobl Ddu, a chynnydd mewn terfysgoedd mewn llawer o ddinasoedd.  

Er gwaethaf cyflwyno Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, roedd pobl anabl yn dal i orfod gwthio am y cyfle i ddod yn rhan o'r gweithlu a chael eu cydnabod fel y gweithwyr galluog a thalentog yr oeddent.

Dyma rai enghreifftiau yn unig o sut mae gwahanol bobl drwy gydol hanes diweddar wedi wynebu cael eu gwahardd yn y gwaith. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 wedi cynyddu hawliau pobl yn y gweithle ond nid yw hynny’n awtomatig yn arwain at deimlo eu bod yn cael eu cynnwys.

Felly, beth mae cynhwysiant yn ei olygu?

Rydyn ni’n meddwl ei fod yn golygu bod pobl yn rhan o sefydliad lle maen nhw’n teimlo bod croeso iddynt, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu bod yn cael eu cynnwys a’u bod yn cael eu parchu am y syniadau, y safbwyntiau a’r profiadau sydd ganddyn nhw. Er mwyn i ni gyflawni hyn, mae angen ymrwymiad pob person sy'n rhan o Llais.    

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol hefyd yn rhoi gwybod i chi beth rydym yn gobeithio ei gyflawni dros y pedair blynedd nesaf fel rhan o'n rhaglen tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.  

Mae cael strategaethau a chynlluniau yn wych, ond gwyddom fod angen gweithredu i wneud yn siŵr bod Llais yn hyrwyddo cynhwysiant cymaint ag y gallwn ar gyfer ein pobl a’r bobl sydd angen ein gwasanaethau.  

Dros y 6 mis diwethaf rydym wedi bod yn edrych ar sut y gallwn gael effaith, fel unigolion, gan ddechrau gyda’r pethau bach y gallwn i gyd eu gwneud a fydd yn arwain at y newidiadau mwy.

Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr wedi dweud wrthym yr hoffent ddysgu mwy am sut y gallant fod yn gynhwysol wrth ymgysylltu â phawb sydd am rannu eu profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.  

Fel rhan o’n gwaith ehangach ar gymhwysedd diwylliannol, rydym ar hyn o bryd yn creu geirfa y gall pobl ei defnyddio i’w helpu i ddatblygu eu gwybodaeth. Rydyn ni'n deall pwysigrwydd iaith, rydyn ni'n gwybod bod y geiriau a'r ymadroddion rydyn ni'n eu defnyddio yn bwysig, ac rydyn ni wedi clywed am yr effaith (cadarnhaol a negyddol) y gall geiriau ei chael.  

Datblygwyd hwn gyda chymorth Llais Pawb (ein Gweithgor Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant) a rhai o'n partneriaid.Cyn bo hir byddwn yn gofyn am eich cymorth a’ch arweiniad ar ba dermau yr ydych yn eu hoffi neu ddim yn eu hoffi a pha iaith sydd orau gennych a pham, y byddwn yn ei defnyddio i’w chwblhau. Gan fod iaith bob amser yn esblygu bydd hyn yn cael ei adolygu'n rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni.  

Mae camau bach eraill yr ydym wedi’u cymryd yn cynnwys adran gydnabyddiaeth benodol ar flaen ein cylchlythyr lle gall ein staff dynnu sylw at gyfraniadau ein gilydd; gwneud yn siŵr ein bod yn cynnwys ein rhagenwau yn ein llofnodion e-bost; dathlu gwahaniaeth gan ddefnyddio ein calendr cynhwysiant; ac ymgysylltu â phobl yn eu cymunedau a'r mannau lle maent yn teimlo'n fwyaf cyfforddus.  

Ein gobaith yw, wrth i ni dyfu, fod Llais yn parhau i adeiladu diwylliant sy'n gynhwysol, lle mae pobl yn teimlo'n hyderus ac yn ddiogel i fod yn wir yn y gwaith. Dim ond dechrau ein taith yw hyn, ac rydym am ddiolch i’n holl bobl sy’n gweithio’n galed iawn i gael effaith gadarnhaol yn ein sefydliad.

Hoffech chi wneud yn siŵr bod eich llais chi a’ch cymuned yn cael ei glywed? Ydych chi eisiau helpu i benderfynu ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Darllenwch fwy am sut y gallwch chi ddod yn rhan o'r newid yma.

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 24 Medi 2024
Diweddarwyd diwethaf 24 Medi 2024