Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

 

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Llais yw prif noddwr Gwobrau 2025

NEWYDDION 17 Chwefror 2025

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai ni yw prif noddwr Gwobrau 2025. 

Y Gwobrau hyn yw gwobrau blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu’r gwaith rhagorol sy’n digwydd ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. 

Delwedd
the accolades 2025 awards

 

Bydd Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais, yn rhoi anerchiad agoriadol yn seremoni Gwobrau 2025 yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ar 1 Mai 2025. 

Mae Llais yn gorff cenedlaethol annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Ein rôl yw sicrhau bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed gan y sawl sy’n gwneud penderfyniadau. Mae timau Llais lleol yn casglu profiadau pobl o ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i helpu’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i gynllunio a darparu gwasanaethau gwell ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae gan Llais bedair dyletswydd allweddol. Mae’n ymgysylltu â phobl a chymunedau ac yn gwrando ar eu profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’n cynrychioli’r safbwyntiau hynny i ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Yn ogystal, mae’r sefydliad yn darparu gwasanaeth eiriolaeth cwynion ym mhob rhanbarth yng Nghymru, ac mae’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o’i waith ymhlith y cyhoedd a chymunedau lleol. 

Dywedodd Alyson Thomas: 

“Mae Llais yn falch iawn o fod yn brif noddwr Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2025. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle hanfodol i ddathlu ymroddiad ac arloesedd ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru. 

“Mae mor bwysig cydnabod ymdrechion unigolion, timau a sefydliadau sy’n mynd gam ymhellach a thu hwnt i gefnogi pobl Cymru. Rydyn ni yn Llais yn hyrwyddo lleisiau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, ac mae’r gwobrau hyn yn amlygu pam mae hynny mor bwysig. Wrth wrando ar brofiadau bywyd a’u gwerthfawrogi, gallwn sicrhau bod gwasanaethau gofal a chymorth yn canolbwyntio’n wirioneddol ar yr unigolyn ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. 

“Mae’n brofiad cyffrous bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n arddangos arferion da, yn ysbrydoli eraill, ac yn cyfrannu at ddyfodol gwell i ofal cymdeithasol yng Nghymru.” 

Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:

 “Mae’n bleser gennym ni groesawu Llais fel prif noddwr Gwobrau 2025 ac rydyn ni'n falch iawn ei fod wedi cytuno i noddi ein gwobrau. 

“Y Gwobrau yw ein cyfle i ddiolch i’n timau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru ac i arddangos y gwaith gwerthfawr y maent yn ei wneud i gefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed. 

“Ni fyddem yn gallu cynnal y Gwobrau heb gefnogaeth ein noddwyr. Felly, rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Llais am ein helpu i ddathlu arferion gwych a manteisio ar y cyfle hwn i ddangos ei gefnogaeth i’r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar wrth ddod yn brif noddwr y gwobrau.” 

 

Am fwy o wybodaeth am y Gwobrau, ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru fanhyn: 

Gwobrau 2025 | Gofal Cymdeithasol Cymru

Rhannwch y dudalen hon
Cyhoeddwyd gyntaf 17 Chwefror 2025
Diweddarwyd diwethaf 17 Chwefror 2025