Newyddion Cyffrous: Llais yn ymuno i gryfhau lleisiau’r Gymraeg wrth lunio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydym wedi ymuno â’r Urdd, Merched y Wawr, Mudiad Meithrin ac Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru fel bod pobl o wahanol oedran a chefndir yn gallu defnyddio’r Gymraeg i fod yn rhan o wneud iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn well iddyn nhw a’u hanwyliaid.
Rydyn ni'n cymryd cam mawr i sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed. Credwn fod syniadau pawb yn cyfrif.
Dyma gyfle i ni ganolbwyntio ar wrando a dysgu oddi wrth y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg a gwneud yn siŵr bod y sgyrsiau hynny’n cael eu clywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a darparwyr gwasanaethau, fel eu bod yn gwneud gwahaniaeth i’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt, yn enwedig yn Gymraeg.
Felly beth yw'r cynllun? Byddwn yn cydweithio i greu mwy o gyfleoedd i gasglu barn pobl sy’n siarad Cymraeg ar draws gwahanol gymunedau Cymru er mwyn gwella’r iechyd a’r gofal cymdeithasol a gânt. Gallai hyn fod ar-lein, yn bersonol neu drwy arolygon.
Dyma beth ddywedodd rhai o’r bobl a gymerodd ran yn ein partneriaeth:
Meddai'r Athro Medwin Hughes, Cadeirydd Llais
“Mae sefydlu partneriaeth o’r fath rhwng y sefydliadau cenedlaethol hyn yn cydnabod amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol Cymru a’i harwyddocâd wrth lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Cawsom ein sefydlu i fod yn gorff annibynnol cynhwysol sy’n gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo hawliau a disgwyliadau pobl sy’n byw yn ein cymunedau ledled Cymru ac mae’r bartneriaeth hon yn ymgorffori’r ymagwedd hon. Edrychaf ymlaen at fwy o ddatblygiadau fel hyn yn y misoedd nesaf.”
Dywedodd Sian Lewis, Cyfarwyddwr yr Urdd:
“Mae’r Urdd yn falch o’r cyfle i sicrhau bod lleisiau pobol ifanc Cymru yn cael eu clywed wrth fireinio iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hwn yn blatfform gwych i wneud yn siŵr bod cyfle i bobl ifanc gynnig eu barn ar amrywiol bynciau pwysig.”
Nododd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr:
“Mae Merched y Wawr yn rhoi pwys mawr ar ddatblygu cyfleoedd llesiant. Bydd y cydweithio hwn yn sicrhau bod lleisiau ein haelodau yn cael eu clywed ac yn gallu dylanwadu ar ddatblygiadau perthnasol. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda Llais i ddatblygu’r gwaith.”
Nododd Gwenllian Lansdowne, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin:
“Mae sicrhau cyfleoedd i ddarganfod barn unigolion sy’n ymwneud ag iechyd a lles datblygiad blynyddoedd cynnar plant yn bwysig i Fudiad Meithrin. Dyna pam mae cydweithio gyda Llais yn bwysig. Edrychwn ymlaen at ddatblygu partneriaeth a fydd yn darparu cyfleoedd pellach i gydweithio.”
Wrth groesawu’r bartneriaeth, dywedodd Mared Rand Jones, Prif Weithredwr Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru:
“Rydym yn falch o’r cyfle i weithio gyda Llais. Mae gwrando ar leisiau amrywiol ein haelodau ar draws Cymru yn bwysig, yn enwedig wrth ystyried materion iechyd a gofal amrywiol yn ein cymunedau gwledig.”
Eisiau gwybod mwy? Edrychwch ar www.llaiscymru.org neu dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol. Gadewch i ni wneud yn siŵr bod lleisiau Cymraeg yn cael eu clywed a gwneud iechyd a gofal yn well i bawb!