Pwyso am y gofal canser gorau posibl yng Nghaerdydd a'r Fro
Cyhoeddodd Caerdydd a’r Fro adroddiad ‘Byw gyda Chanser’ a gafodd dderbyniad da ym mis Ebrill. Amlygodd yr adroddiad yr adborth cadarnhaol a gawsom gan bobl ynghylch eu gofal, ac mae Canolfan Ganser Felindre wedi cyhoeddi llythyr o ddiolch, ynghyd â Chynllun Gwella i fynd i’r afael â rhai o ganlyniadau’r adroddiad.
Roedd y camau gweithredu a nodir yn y Cynllun Gwella yn ymdrin â meysydd o bwysigrwydd gwirioneddol i bobl sy’n derbyn gofal, o:
Trosglwyddo'r adborth cadarnhaol a gawsom gan bobl ynghylch eu gofal.
Ail agor y caffi.
Gwella cyfathrebu â phobl sy'n derbyn gofal.
Helpu pobl i gael profion gwaed yn nes adref yn hytrach na dim ond yn y ganolfan driniaeth.
Sicrhau nad oedd pobl yn mynd ar goll yn y bwlch rhwng yr ysbyty a’r feddygfa.
Mae llawer o’r argymhellion y manylir arnynt yn yr adroddiad eisoes wedi’u cwblhau. Dyma enghraifft wych o werth ac effaith y ffordd y mae ein gwaith yn Llais yn arwain at welliannau i'r ffordd y caiff gwasanaethau eu dylunio a'u darparu.
Diolch i dîm Caerdydd a’r Fro am eu gwaith caled.