Y diweddaraf am Ysbyty Nevill Hall - Gwent
Yn Llais Gwent, mae pobol leol wedi codi eu pryderon am ddyfodol Ysbyty Nevill Hall.
- O’n gwaith i ddeall y sefyllfa gyda’r Bwrdd Iechyd, gallwn egluro’r canlynol:
- Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn newid llwybrau cleifion.
- Nid oes gofal critigol yn Nevill Hall ar hyn o bryd.
- Bydd y cleifion anadlol mwy cymhleth yn parhau i gael eu trin yn Ysbyty Athrofaol y Grange.
- Nid yw Ward Llanellen 4/4 yn Nevill Hall yn cau.
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eisiau gwella labelu gwelyau – mae gan Nevill Hall welyau anadlol, y rhan fwyaf ohonynt ar gyfer gofal cleifion hŷn. Bydd mwy o ymgynghorwyr ‘o fewn cyrraedd’ yn yr Uned Mân Anafiadau i leihau nifer y bobl â chyflyrau mwy ysgafn sy’n gorfod mynd i’r Grange. Bydd y newid mewn staffio yn golygu diagnosis cynharach gyda'r Bwrdd Iechyd yn symud staff o gwmpas i hwyluso hyn.
- Nod y cynllun hwn yw dychwelyd i niferoedd gwelyau cyn Covid
Rydym yn deall yr heriau a’r pwysau sydd ar y Bwrdd Iechyd tra’n gorfod gwneud y gorau o adnoddau i sicrhau bod anghenion llesiant cleifion a staff yn cael eu diwallu.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymgysylltu â'r gymuned leol ar bob cam. I ddweud eich dweud am eich gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, rhannwch eich stori yma.